Y gofod ble gall cymunedau caffael a masnachol yng Nghymru gydweithio
Cyd yw'r ganolfan ragoriaeth newydd lle gall cymunedau caffael a masnachol ddysgu a chefnogi ei gilydd.
Mae ein ffocws cychwynnol ar rôl caffael a masnachol wrth gefnogi targed Cymru i gyrraedd Sero Net erbyn 2030.
Dysgu mwy am Cyd
Newyddion diweddaraf a digwyddiadau
Y Daith Gaffael
Dechrau ar y daith gaffaelMae'r daith gaffael yn cynnwys tri cam bras: Datblygu, Tendro, Contractio. Mae pob un o'r camau hyn yn newid yn dibynnu ar werth eich caffaeliad. Unwaith y byddwch wedi datblygu eich briff ar gyfer y tendr (gweler cam cyntaf Datblygu), byddwch yn gwybod beth rydych yn ei brynu, faint mae’n ei gostio ac a yw ar gael am ddim yn y farchnad. Bydd hyn yn eich helpu i ddewis y Llwybr Caffael gan Gynlluniwr Taith Caffael Llywodraeth Cymru.
Dyma'r tri llwybr:
Llwybr Un
Mae’r llwybr hwn ar gyfer contractau gwerth llai na £25,000 (yn cynnwys TAW), risg isel, sydd ddim yn ail-adrodd.
Llwybr Dau
Mae’r llwybr hwn ar gyfer contractau gwerth rhwng £25,000 (yn cynnwys TAW) a throthwy Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan Lywodraethau (WTO GPA).
Llwybr Tri
Mae'r llwybr hwn ar gyfer contractau gyda chyfanswm gwerth sy'n cyfateb i drothwyon Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael gan Lywodraethau (GPA) neu'n uwch.
Rydym wedi dod ag amrywiaeth o adnoddau ynghyd i’ch cefnogi ar bob cam o’ch taith caffael.
Dilynwch y ddolen isod i weld yr adnoddau sy'n berthnasol i bob cam o'r daith gaffael.
