Mae'r ymarfer Blwch Tywod caffael yn ôl ac yn chwilio am wirfoddolwyr

Rydym yn cyflwyno’r ymarfer blwch tywod caffael a dreialwyd gennym yr hydref diwethaf, ac rydym yn chwilio am sefydliadau i wirfoddoli i ymuno â ni, yn bersonol neu ar-lein.

Rydym yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein, ar ddydd Mercher, Ionawr 29 am 12yp, i egluro ychydig mwy am bwrpas sesiwn ‘Blwch Tywod’, y fformat y gallai ei gymryd, a sut rydym yn meddwl y gallai eich helpu. Does dim disgwyl i chi ymrwymo yn ystod yr alwad – ond dewch i glywed ychydig mwy.

Dyma'r ddolen i ymuno â ni 👉🏼 https://bit.ly/BlwchTywodCydSandbox

Blwch Tywod Cyd oedd y prif beth roedd pobl am drafod yn Procurex Cymru ym mis Tachwedd XNUMX - man diogel i ddod â rhanddeiliaid allweddol o fewn eich sefydliad at ei gilydd, a chyfle i feddwl am bopeth sy'n newydd o dan ymbarél eang diwygio caffael cyhoeddus yng Nghymru – gan gynnwys y cyfrifoldebau sydd gan eraill.

Mae rhai o'r uchafbwyntiau a'r hyn a ddysgwyd o Flwch Tywod Cyd cyntaf wedi'u nodi yma, yn y blogbost hwn gan dîm Cyd 👉🏼https://cyd.cymru/the-cyd-procurement-reform-sandbox-using-foresight-approaches-to-help-deal-with-uncertainty-and-change/

Rydym yn dechrau drwy edrych ar y Weithdrefn Hyblyg Gystadleuol o fewn Deddf Caffael XNUMX, a’r cyfleoedd y mae’n eu cyflwyno, gan ei fod yn rhywbeth sydd wedi bod yn dipyn o bwnc llosg of fewn sgyrsiau gyda chymuned Cyd:

  • Sut gallwn ni ddefnyddio'r weithdrefn newydd hon i'w botensial llawn?
  • Gyda phwy yn fy sefydliad y dylwn fod yn eistedd i lawr i sicrhau ein bod ar yr un dudalen am yr hyn y mae angen i ni ei wneud, er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol ar les drwy ein caffaeliadau?
  • Sut dylen ni fod yn ystyried beth sy’n berthnasol a chymesur yn seiliedig ar risg, cymhlethdod a newydd-deb ein hanghenion penodol?

Rydym yn bwriadu cynnal nifer o sesiynau wyneb-i-wyneb ledled Cymru, yn ogystal ag ar-lein. Rydyn ni'n gwybod bod timau'n brysur iawn wrth i ni anelu at ddiwedd mis Chwefror, ac rydyn ni am eich helpu chi trwy ddod â'r amgylchedd prawf hwn yn fyw, i helpu i roi tawelwch meddwl i chi.