Pobi cacen well – dadbacio a mynd i’r afael â CO2e mewn cadwyni cyflenwi

Yn yr asesiad diweddaraf yn 2020/21, cyfrifwyd fod nwyddau a gwasanaethau a brynwyd (gan gynnwys gwaith) yn gyfrifol am 87% o ôl troed carbon Sector Cyhoeddus Cymru.

Dyw hynny ddim yn syndod, gan fod ôl troed carbon nwyddau a gwasanaethau a brynwyd o fewn busnesau fel arfer yn amrywio o 70-90%.

Ond rydym yn ei chael hi’n anodd delio â’r allyriadau hyn oherwydd ble maen nhw a sut mae’n rhaid inni eu cyfrifo.

Cânt eu hachosi gan y galw yr ydym yn ei greu am nwyddau a gwasanaethau a brynwyd a’u creu gan y gweithgareddau o fewn y gadwyn gyflenwi nad ydym yn berchen arnynt nac yn eu rheoli’n ‘uniongyrchol’. Rydym yn cyfeirio atynt fel Cwmpas 3 ‘allyriadau anuniongyrchol’ yn y jargon.

Gan nad oes gennym ddealltwriaeth glir o gymhlethdodau'r prosesau echdynnu, cynhyrchu a dosbarthu deunydd crai, rydym yn amcangyfrif yr allyriadau yn fras, yn seiliedig ar fodel macro-economaidd mewnbwn allbwn.

Mae’r model hwn yn cywasgu’r broses o’r dechrau (deunyddiau craidd) i’r diwedd (defnydd) yn gost i’r defnyddiwr terfynol, gan ddefnyddio amcangyfrif pwysau mewn cilogramau o CO2e fesul £ a wariwyd mewn categori penodol gan ddefnyddio codau generig lefel uchel Dosbarthiad Diwydiannol (SIC).

Deall y broblem - Penbleth tair rhan

Os byddwn yn meddwl am 87% o’n hôl troed carbon fel ‘cacen’ nwyddau a gwasanaethau a brynwyd, gallwn weld maint a siâp y gacen a’r tafelli sy’n rhan o’r nwyddau, gwasanaethau a gwaith.

Yr hyn na allwn ei weld serch hynny yw’r gweithgareddau sy’n cynhyrchu allyriadau sydd eu hangen i ffurfio’r nwyddau a’r gwasanaethau hynny a brynwyd, sef y ‘cynhwysion.’

Er mwyn pobi cacen well, mae angen i ni wybod beth yw'r cynhwysion ar hyn o bryd, a'u pwysau cymharol, a pha rai o'r cynhwysion hynny sy'n well neu'n waeth i ni, er mwyn i ni allu pobi cacen ysgafnach gyda'r cynhwysion gorau.

Y cynhwysion

Yn gyntaf, nid ni sy’n prynu'r cynhwysion. Y cynhyrchion gorffenedig neu’r gwasanaeth ydym ni’n eu prynu, y nwyddau a'r gwasanaethau ydym ni eu hangen.

Rydym yn eithaf da am gyfrifo y nwyddau a’r gwasanaethau ydym ni wedi eu prynu ond ar hyn o bryd nid oes gennym ddealltwriaeth glir o ble, sut, na faint o un o’r cynhwysion allweddol, ein hallyriadau carbon, sy’n cael ei ychwanegu ar hyd y ffordd.

Rhan fawr o’r broblem yw bod yr allyriadau hyn yn cael eu dosbarthu fel ‘allyriadau anuniongyrchol’ nad ydym yn berchen arnynt nac yn rheoli’r ffordd maent yn cael eu cynhyrchu, dosbarthu neu gyflenwi.

Fodd bynnag, yr hyn yr ydym yn ei wybod ac yn ei reoli yw ein galw am y nwyddau a'r gwasanaethau hynny a brynwyd.

Mae'r galw hwn yn achosi i ddeunyddiau crai gael eu echdynnu neu eu cynaeafu, eu rhoi trwy brosesau gweithgynhyrchu, cyflenwi neu ddosbarthu ar ein rhan. Rydym hefyd yn gallu dewis y cyflenwyr, y contractwyr a'r darparwyr gwasanaeth i ddarparu'r nwyddau a'r gwasanaethau.

Mae ein cyflenwyr, ein contractwyr a'n darparwyr gwasanaeth yn gwybod beth sydd angen ei wneud er mwyn darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau a brynwyd yn unol â’r hyn sydd gennym yn ein contractau. Maent yn gwybod beth yw’r cynhwysion.

Pwyso’r cynhwysion

Ein hail broblem yw'r ffordd rydym yn cyfrifo ein hallyriadau nwyddau a gwasanaethau a brynwyd ar hyn o bryd.

Ar y cyfan, nid ydym yn ymwneud â 'chynhwysion' allyriadau carbon penodol ond rydym yn cyfrifo eu costau trwy luosi'r hyn a wariwn ar y cynhyrchion neu'r gwasanaethau gorffenedig cyfan sy'n cynnwys y cynhwysion hynny (£) â ffactorau dangosol (kg o CO2e ) ar gyfer codau SIC. O ganlyniad, ar y gorau, dim ond amcangyfrif bras o allyriadau y cawn ni trwy gyfrifo fel hyn.

Er enghraifft, cyfrifir bod £1 a wariwyd yn y cod SIC Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Physgota yn cynhyrchu 2.189 kg/CO2e. Ond, nid oes neb yn prynu Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Physgota - rydym yn prynu nwyddau neu wasanaethau penodol wedi'u gwneud o ystod eang o ddeunyddiau crai sy'n cael eu pecynnu a'u darparu mewn ffyrdd amrywiol iawn i ddiwallu ein hanghenion.

Yn absenoldeb y wybodaeth benodol honno, mae’n rhaid inni grwpio gwariant ar y pethau penodol hyn yn y bwced sydd wedi’i farcio Amaethyddiaeth, Coedwigaeth a Physgota neu o leiaf un o’i 40 is-gategori. Cyfeirir at y modd elfennol hwn o gyfrifo fel methodoleg data Haen 1.

Pobi cacen ysgafnach gyda chynhwysion gwell

Mae rhan 3 o'r broblem mewn dwy ran.

Oes gennych chi bobydd yn barod yn gweithio gyda chi sydd â diddordeb mewn gwella eu rysáit neu o leiaf yn fodlon dechrau dweud wrthych faint mae pob cynhwysyn yn ei bwyso ac yn fodlon gweithio gyda chi i newid y cynhwysion i bobi cacen ysgafnach i chi?

Neu a ydych chi yn y farchnad am bobydd newydd? Sut ydych chi'n dewis un sydd eisoes yn chwilio am rysáit ar gyfer cacen ysgafnach, gan ddefnyddio'r cynhwysion gorau ac a fydd yn gallu dweud wrthych beth sydd ei angen ar eu dull penodol nhw, yn gallu rhestru pob un o'r cynhwysion a dweud wrthych chi beth mae pob cynhwysyn yn ei bwyso?

Yn ddelfrydol, fe wnewch chi ddod o hyd i bobydd sy'n gweithio gyda chynhwysion unigol a all ddarparu data ar bob elfen ac sy'n barod i weithio gyda chi i wella'r cynhwysion a'r dull o gynhyrchu'ch cacen. Y wybodaeth benodol, wirioneddol hon am weithgaredd yw'r hyn sydd ei angen arnom a chyfeirir ato fel data Haen 3.

Cyngor ar y ‘pobi’!

WPPN 12/21 Datgarboneiddio trwy gaffael: Mynd i'r afael â CO2e mewn cadwyni cyflenwi

Mae cyngor ar sut i gymryd camau i ddeall yn well allyriadau nwyddau a gwasanaethau a brynwyd Cwmpas 3 eich sefydliad a sut i weithio gyda chyflenwyr presennol ar gael yn WPPN 12/21 Datgarboneiddio trwy gaffael: Mynd i'r afael â CO2e mewn cadwyni cyflenwi. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut i gynllunio contractau sydd ar ddod i ddechrau cymryd y camau sydd eu hangen arnom i fynd i’r afael ag allyriadau yn ein cadwyni cyflenwi.

 Eisiau darganfod mwy?

WPPN 06/21 Datgarboneiddio trwy gaffael: Ystyried Cynlluniau Lleihau Carbon.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut y gallwn ddechrau gwella'r dewis o'n cyflenwyr, gan nodi'r rhai sy'n barod i ymuno â ni ar y daith i sero net yn WPPN 06/21.