Ry’n ni eisiau dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.. Mae’n uchelgais mawr—ac mae gyda ni gynlluniau mawr i gyflawni’r uchelgais. Mae technoleg yn rhan enfawr o hyn, a bydd y canllaw hwn yn gymorth i ni gyrraedd y nod.
I bwy?
Ry’n ni wedi cynnwys y pecyn cymorth yma fel un o adnoddau newydd gwefan CYD er mwyn helpu unrhyw un neu unrhyw sefydliad sy’n awyddus i greu profiad gwych i’w defnyddwyr yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Wrthi’n cynnal proses gaffael ar gyfer gwasanaeth sydd angen bod yn ddwyieithog? Gall y ddogfen hon helpu gyda hynny hefyd.
Cofiwch…
Mae cefnogaeth amlieithog yn gyffredin yn rhyngwladol yn barod, felly fe ddylai defnyddio’r canllaw hwn fod yn ddigon hawdd.
Cofiwch hefyd gynnwys cefnogaeth i’r Gymraeg a’r Saesneg (dyma beth ry’n ni’n ei alw’n ‘Gallu Dwyieithog’) ymysg y gofynion sy’n cael eu hystyried o’r cychwyn cyntaf, e.e. hygyrchedd, diogelwch a deddfwriaeth.
Mae’n bosibl hefyd dod o hyd i ffordd o wneud rhywbeth bron bob amser, ac os nad yw’n bosibl, efallai y byddwn ni’n gallu gweithio gyda’r darparwr i gael hyd i ateb.
Mae gan Helo Blod restr hir o adnoddau technoleg Cymraeg a dwyieithog i’w defnyddio a’u hailddefnyddio—technoleg lleferydd, mapiau Cymraeg a phethe i helpu cyfieithu a llawer mwy. Ewch draw i www.llyw.cymru/heloblod i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim.
Ry’n ni wedi ysgrifennu’r pecyn cymorth gyda chymorth Interceptor Solutions Ltd. Mynnwch air os bydd gyda chi wybodaeth ychwanegol neu adborth a allai ein helpu i’w datblygu yn y dyfodol. Os ydych chi’n teimlo y gallai’r pecyn fod yn gliriach, neu nad yw’r system dan sylw’n gallu cynnig gwasanaeth dwyieithog, beth am gael golwg ar ganllawiau manwl Comisiynydd y Gymraeg. Os na allwch chi ddod o hyd i ateb yn y Canllawiau, e-bostiwch heloblod@llyw.cymru inni gynnig help llaw.
Dr Indeg Marshall, Cymraeg 2050 Division