Adeiladu Dyfodol Cynaliadwy: Taith Cyngor Dinas Casnewydd i Ddatgarboneiddio Caffael

Mae’r blog gwadd hwn gan Theo Bishop, sy’n Hyfforddai Rheoli ar Raglen Datblygu Genedlaethol i Raddedigon (NGDP) Cyngor Dinas Casnewydd.

Deall y cyd-destun

Mae’r angen i sefydliadau sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030 yn dod yn fwy brys gyda phob diwrnod sy'n mynd heibio. Mae’r DU, ynghyd â llawer o wledydd eraill, wedi ymrwymo i Gytundeb Paris, sy’n ceisio cyfyngu cynhesu byd-eang i lai na 2 radd Celsius uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol. Er mwyn cyrraedd y targed hwn, mae angen gostyngiad sylweddol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr ar draws pob sector.

Mae gan sefydliadau sector cyhoeddus gyfrifoldeb i arwain drwy esiampl. Rydym yn chwarae rhan hanfodol wrth ddangos stiwardiaeth amgylcheddol ac ysgogi newid cymdeithasol. Drwy ymdrechu i fod yn garbon niwtral, ein nod yw ysbrydoli ac ysgogi sefydliadau i gymryd camau tebyg. Mae cydweithio’n hanfodol os am fynd i'r afael â newid hinsawdd yn effeithiol.

 

Camau cyntaf

Yng Nghyngor Dinas Casnewydd, rydym wedi gwneud prosiect sylweddol sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio ein cadwyn gyflenwi. Mae’n her sylweddol, ond cyffrous, gan ein bod yn gweithio gyda hyd at 3,000 o fusnesau bob blwyddyn i gaffael nwyddau a gwasanaethau.

Mae ein cadwyn gyflenwi yn cynnwys ystod amrywiol o sefydliadau; o gorfforaethau rhyngwladol gyda throsiant blynyddol sylweddol i fusnesau bach teuluol, lleol sy'n gweithredu yn ein rhanbarth.

 

Cyfleoedd i ymgysylltu a darparu cymorth wedi'i deilwra

Dechreuais trwy wneud rhestr o’r sefydliadau oedd yn ein 50% uchaf o ran gwariant. Roedd hyn yn ein galluogi i weld lle y dyrannwyd cyfran sylweddol o'n hadnoddau ariannol. Dechreuais siarad yn uniongyrchol â’r cyflenwyr hyn drwy alwadau ffôn, e-byst, a chyfarfodydd wyneb yn wyneb, gan ofyn iddynt a oedd ganddynt Gynlluniau Lleihau Carbon a gofyn iddynt rannu eu data Cwmpas 1, 2, a 3 (os oedd ganddynt rai!).

Gan fod y rhan fwyaf o'r cyflenwyr hyn yn gorfforaethau mawr, roedd y dasg hon yn gymharol syml. Yn ffodus, mae llawer o'r sefydliadau hyn yn hapus i helpu.

Fodd bynnag, daeth heriau i'r amlwg pan wnaethom ymestyn ein sgyrsiau i sefydliadau ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi.

Gan fod llawer o’r cyflenwyr hyn yn Fentrau Bach a Chanolig, nid oedd ganddynt brofiad o adrodd ar eu hallyriadau carbon ac roeddent yn ansicr ynghylch y disgwyliadau.

Gwelsom hwn fel cyfle pwysig i addysgu ac i gynnig cymorth. Fe wnaethom greu pecyn cymorth adrodd ar allyriadau, hawdd ei ddefnyddio a’i addasu.

Roedd y pecyn wedi’i gynllunio’n benodol i symleiddio’r broses adrodd ac ateb anghenion amrywiol ein cadwyn gyflenwi. Dechreuais gyflwyno’r daenlen ar draws ein rhwydwaith cadwyn gyflenwi. Mae'n cael ei fireinio'n barhaus ar sail yr adborth gwerthfawr a gawn, sy’n sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn berthnasol.

 

Grymuso sefydliadau – gwella ymgysylltiad â chyflenwyr

Mae ein pecyn cymorth yn ddewis amgen i daenlenni adrodd confensiynol ac mae wedi’i gynllunio i ateb gofynion unigryw pob sefydliad. Mae'n cynnwys gwahanol adrannau, gyda'r ffocws cychwynnol ar wybodaeth gyffredinol.

Mae’r adran hon yn cyflwyno cyfres o gwestiynau perthnasol, gan gynnwys y math o sefydliad, ffigwr trosiant, a all y sefydliad ddarparu data sy’n benodol i’n contractau ni (i osgoi dyblygu), ac, yn fwyaf nodedig, a yw’r sefydliad eisoes yn adrodd ar allyriadau. Os bydd y cyflenwr yn ateb yn gadarnhaol, gwneir cais syml i fewnbynnu ei ddata Cwmpas 1, 2, a 3.

Fodd bynnag, ar gyfer y rhai nad ydynt yn adrodd ar hyn o bryd, rydym yn ymestyn ein cymorth trwy ddarparu rhestr gynhwysfawr o adnoddau gwerthfawr a dolenni i sesiynau hyfforddi i wella eu dealltwriaeth.

Yn bwysig, mae adran wedi'i neilltuo i gasglu eu data defnydd, gan gyfuno'r defnydd o nwy, trydan, olew gwresogi, LPG, ac unrhyw danwydd arall (wedi'i fesur naill ai mewn gwariant ariannol neu gyfaint). Mae gan gyflenwyr yr hyblygrwydd i gynnwys ffigurau blynyddol neu fisol, beth bynnag sydd hawsaf iddynt.

Mae’r adran hon wedi bod yn amhrisiadwy, gan fod llawer o fentrau bach a chanolig wedi’i chael yn hawdd iawn darparu’r data hwn, sy’n ei gwneud hi’n haws iddynt wneud eu rhan yn y broses ddatgarboneiddio. Rydym hefyd, yn yr adran hon, wedi cynnwys y ffactorau perthnasol er mwyn cyfrifo cyfanswm yr allyriadau ar gyfer pob cyflenwr yn awtomatig. Mae'r system glyfar hon yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf i gyflenwyr ac yn cyflwyno eu ffigwr allyriadau terfynol ar gyfer y flwyddyn benodol.

 

Y Llwybr Ymlaen

Mae ein hymrwymiad i wella’r pecyn cymorth yn parhau’n ddiwyro wrth i ni barhau i gydweithio’n frwd â Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol ychwanegol ledled y wlad, o bell ac agos.

Wrth i ni barhau i dyfu, rydym wedi ymrwymo i feithrin partneriaethau cryf gyda busnesau lleol. Ein prif nod yw, nid yn unig darparu cymorth i'r busnesau hyn ein hunain, ond hefyd eu harwain at adnoddau ychwanegol, megis rhaglenni cymorth a grantiau yn y dyfodol.

Ein nod yw eu helpu i gael gwybodaeth a mynediad at gyfleoedd, fydd yn hwyluso eu taith i weithredu mewn ffordd gynaliadwy a charbon isel.

Mae’r broses ymgysylltu allanol hon wedi bod yn allweddol wrth i ni ddatblygu, ac mae wedi rhoi gwybodaeth werthfawr i ni - tra’n bod ni yn ysbrydoli eraill, a yn cael ein hysbrydoli gan eraill.

Rydym ar drothwy cyfnod newydd, gan symud ymlaen gyda’r weledigaeth y bydd y pecyn cymorth hwn yn y dyfodol yn ymestyn y tu hwnt i’n hardal leol ac y gallai gwmpasu Gwent gyfan, gan ehangu ymhellach o bosibl i gynnwys Cymru gyfan a thu hwnt.

 

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y teclyn, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Newid Hinsawdd Cyngor Dinas Casnewydd