Nôl ar ddechrau mis Ebrill ysgrifennais am sut roedd cam cyntaf prosiect Cyd yn dod i benEglurais sut yr oeddem yn gwerthuso’r Alffa hyd yma ac yn ystyried y camau nesaf yng nghyd-destun y blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer Llywodraeth Cymru a chymunedau masnachol a chaffael yng Nghymru.
Bryd hynny, penderfynwyd ymestyn yr Alffa hyd at ddiwedd mis Mehefin i gadw’r momentwm a oedd eisoes yn ei le o amgylch gwasanaethau Cyd. Yn y cyfnod hwnnw, cawsom gyfle i edrych ar yr hyn oedd wedi ei ddarparu, pa feysydd y dylem ganolbwyntio arnynt nawr a chytuno ar y camau nesaf.
Mae’r adroddiad Alffa bellach wedi'i gwblhau y grynodeb weithredol wedi'i chyhoeddi ac mae gennym gytundeb yn awr i ymestyn y prosiect hyd at ddiwedd mis Mawrth er mwyn parhau i'w gyflawni.
Gwrando ar y gymuned
Mae’r adroddiad Alffa yn cyfleu anghenion y gymuned yn ogystal â’r gwaith sydd wedi ei wneud gan y tîm. Bellach mae gan Cyd grŵp gweithgar o ymarferwyr a rhanddeiliaid o bob rhan o'r gymuned sy'n ymuno mewn ddigwyddiadau.
Mae gan Cyd hefyd grŵp defnyddwyr sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol caffael a masnachol ledled Cymru. Rydyn ni’n siarad â nhw’n rheolaidd er mwyn datblygu gwasanaeth Cyd, o fod yn syniad i rhywbeth go iawn, y gall pobl ddefnyddio o ddydd-i-ddydd.
Mae hyn yn cynnwys gwefan, cyfrifon cymdeithasol, cyfres rhannu gwybodaeth Cydrannu a sesiynau dangos a dweud. Mae themâu cyffredin o’r adborth a gawn ac mae’r gymuned yn dweud wrthym fod angen:
“Cynnwys syml, rhyngweithiol y gellir ychwanegu ato ac sy’m hawdd ei ddeall”
“Arweiniad y gall pawb ei ddefnyddio, nid dim ond gweithwyr proffesiynol masnachol a chaffael”
“Templedi ac enghreifftiau o brosiectau ac astudiaethau achos blaenorol”
“darnau ysgrifenedig a fideo, ymysg pethau eraill”
“Gwybodaeth am dueddiadau’r dyfodol”
Mae’n bwysig ein bod yn cael adborth cyson i wneud yn siŵr ein bod yn bodloni anghenion y gymuned. Helpodd y dull hwn ni i lunio’r cam cyntaf ac mae bellach yn rhan annatod o’n cynllunio ar gyfer y dyfodol, rydyn ni’n gwybod bod mwy i’w wneud, ac mae gennym ni’r cynlluniau i’w wneud!
Rydym bob amser yn chwilio am fwy o bobl i gymryd rhan yn ein grŵp profi, felly os ydych yn newydd i’r maes caffael a masnachol neu’n ymarferydd profiadol, mae croeso i chi ymuno!.
Canfyddiadau adroddiad Alpha
Mae gan yr adroddiad Alffa 9 prif argymhelliad. Mae pob un ohonynt wedi’u derbyn a rhain fydd y sail ar gyfer ein cyfnod nesaf yn cynllunio a chyflawni.
Yn seiliedig ar ymgysylltu â rhanddeiliaid, ymateb i arolygon a phrofi’n gyson gyda’r gymuned, cynigiwyd yr argymhellion hyn i ymestyn cyfnod Alffa Cyd tan ddiwedd mis Mawrth 2024:
- Datblygu a sefydlu model llywodraethu a gweithredu Cyd – sicrhau ansawdd, cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, perthynas â grwpiau masnachol eraill, staffio, ac ati;
- Monitro a gwerthuso canlyniad ac effaith sero net a alluogwyd gan Cyd a defnyddio'r wybodaeth hyn i wella Cyd Cyd Cyd;
- Bwrw ymlaen â datblygiad y gwasanaeth adrodd ar allyriadau carbon gyda'r nod o symud sefydliadau o adrodd Haen 1 (procsi yn seiliedig ar wariant) i Haen 2 (amcangyfrif gwell o CO2e yn ogystal â data Haen 1 gwell) ac, o bosibl, Haen 3 (CO2e gwirioneddol);
- Bwrw ymlaen â'r templedi astudiaethau achos ac datblygu’r wybodaeth o amgylch y daith gaffael - gan adolygu gwasanaethau i ehangu’r cynnwys ar-lein, gan alinio â'r tîm sy'n gweithio ar y teclyn mapio polisi;
- Gweithio'n systematig drwy'r tasgau sydd dal angen eu gwneud yn ôl blaenoriaeth, wrth ddatblygu gwasanaethau ymhellach (o Ionawr 27);
- Alinio â gweithgareddau Llywodraeth Cymru yn ehangach - meysydd gwaith sydd ar y gweill yn y maes caffael digidol / cynaliadwy, a digidol a thechnoleg;
- Alinio â gweithgareddau y timoedd newid rheoleiddiol;
- Cymhwyso'r fethodoleg yn ehangach i feysydd polisi caffael eraill yng Nghymru, a pharhau i brofi a mireinio'r fethodoleg hon;;
- Ehangu’r gymuned i gynnwys:
- grwpiau sy'n ymgynnull ar y meysydd polisi hyn;
- swyddogaethau ymarferwyr eraill sy'n canolbwyntio ar y meysydd polisi caffael hyn; a
- sefydliadau sector preifat a thrydydd sector.
Rydym yn bwriadu ymateb i'r argymhellion hyn yn gynyddrannol dros y misoedd nesaf, gan ddatblygu gwasanaeth Cyd yn barhaus wrth fynd ymlaen.
Bydd cael Cyd fel ffocws yn ein galluogi i barhau i weithio gydag ymarferwyr ledled Cymru i'w gwneud yn haws iddynt sicrhau canlyniadau gwell. Bydd hefyd yn ein galluogi i gefnogi'r gwaith rheoli newid systemig sydd ei angen i greu cyfleoedd a gwireddu buddion y gweithgareddau hyn.
Gweithio’n agored
Mae gweithio’n agored wedi bod yn greiddiol i Cyd o’r cychwyn cyntaf a byddwn yn parhau i rannu cynnydd, cynnwys a gwasanaethau. Mae’n caniatáu inni rannu ein taith, cael adborth gan ystod eang o ddefnyddwyr a rhanddeiliaid wrth i ni fynd yn ein blaenau. Mae hefyd yn ein helpu i ddarparu atebion sy’n diwallu anghenion defnyddwyr, sector cyhoeddus Cymru ac, yn y pen draw, pobl Cymru.
Byddwn yn parhau i ofyn am adborth a syniadau, gan roi cyfle i gymunedau ddod at ei gilydd i weithio tuag at ganlyniadau gwell.
Mae gennym ffocws clir ar gyfer y 9 mis nesaf ond rydym yn gwybod bod angen yr hyblygrwydd arnom i ymateb wrth i anghenion esblygu a dod i'r amlwg.
Mae wedi bod yn wych gwylio Cyd gwireddu’r cysyniad cynnar, gan greu rhywbeth mae galw amdano. Rwy’n edrych ymlaen yn awr at weld Cyd yn cefnogi’r gwaith yr ydym i gyd yn ei wneud i sicrhau canlyniadau gwell trwy gaffael a gwasanaethau masnachol ar gyfer Cymru well.
David Nicholson
Prif Berchennog Cyfrifol – prosiect Alffa Cyd