Cyd, gwaith i’w wneud o hyd…

Mae tîm prosiect Cyd wedi bod yn gofyn i mi ysgrifennu blog ers sbel bellach, ond roeddwn i’n gyndyn o wneud nes i ni gyrraedd y pwynt yma yn y prosiect.

Fy enw i yw David Nicholson a fi yw’r Prif Berchennog Cyfrifol ar gyfer y ganolfan ragoriaeth caffael. Mi wnes i gychwyn yn y rôl rhan amser ym mis Mai 2021 yn dilyn dau argymhelliad a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

Roedd un argymhelliad gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r llall gan banel arbenigwyr caffael a gynullwyd gan y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd.

Amlygodd y ddau argymhelliad fanteision canolfan o'r fath. Roedd gen i hefyd rywfaint o gysylltiad â sefydlu’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, gafodd ei grybwyll yn y ddau argymhelliad.

Dechrau arni

Dechreuodd menter y ganolfan ragoriaeth yn ystod haf XNUMX gyda cham Darganfod i edrych ar yr argymhellion yn fanylach ac i ddeall pa broblem yr oeddem yn ceisio ei datrys. Rhannwyd canfyddiadau’r cam Darganfod yn gyhoeddus ym mis Chwefror XNUMX gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn datganiad ysgrifenedig.

Cadarnhaodd y cam Darganfod y byddai canolfan ragoriaeth caffael o fudd i'r sector cyhoeddus yng Nghymru a nododd sut y gallai'r gwasanaethau posibl edrych.

Yn Haf 2022 fe wnaethom gwblhau proses gaffael i ddewis cyflenwr i redeg cam Alffa a fyddai’n dechrau ar y gwaith o adeiladu a phrofi’r gwasanaethau. Y maes ffocws polisi cychwynnol a ddewiswyd ar gyfer Alffa oedd Sero Net, gan ganolbwyntio ar Ddysgu a Datblygu.

Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar Alffa chwe mis i adeiladu a phrofi’r gwasanaethau canlynol:

  • Gwasanaeth 1 – Creu’r gymuned
  • Gwasanaeth 2 – Rhannu Arfer Gorau
  • Gwasanaeth 3 – Datblygu Mewnwelediad
  • Gwasanaeth 4 - Cefnogi Hyfforddiant

Er bod yr Alffa i fod i ddechrau ym mis Hydref 2022, mewn gwirionedd, dechreuodd ar gyfer y gymuned yn Procurex Cymru ym mis Tachwedd pan gefais y cyfle i roi cyflwyniad ar y cysyniad a dechreuodd tîm y prosiect gyflwyno eu hunain i'r gymuned caffael a chreu cysylltiadau.

Gan garlamu ymlaen at 31 Mawrth, y dyddiad y daw yr Alffa i ben yn swyddogol.

Myfyrio ar gynnydd

Wrth edrych yn ôl mae'n anhygoel meddwl am yr holl waith sydd wedi'i wneud i fwrw’r maen i’r wal. Mae'r cyflymder yn sicr wedi cynyddu ers Procurex y llynedd. Mae Cyd fel brand bellach wedi disodli'r enw Canolfan Ragoriaeth Caffael.

Mae gennym wefan a gwasanaethau cysylltiedig ar waith, a bu llawer iawn o ymgysylltu gan y gymuned gaffael nid yn unig i feysydd ffocws cychwynnol Sero Net a Ddysgu a Datblygu ond hefyd i sut y gall ac y dylai gwasanaethau Cyd ddatblygu.

Rwyf am achub ar y cyfle i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r daith hyd yn hyn, oherwydd heb eich cymorth a’ch cefnogaeth, fyddem ni ddim wedi cyrraedd mor bell â hyn.

Beth nesaf?

Felly, ai dyna ni? Beth sy'n digwydd nesaf? Dyma'r cwestiynau y byddwn i'n eu gofyn pe bawn i'n darllen y blog hwn. Mae'r ateb yn y teitl; busnes anorffenedig. Mae angen i ni nawr werthuso pa mor llwyddiannus y bu’r Alffa a deall y blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.

Mae’n hynod bwysig ein bod yn cadw momentwm gyda gwasanaethau Cyd sydd eisoes yn cael eu darparu ac i ganiatáu iddynt barhau i gael eu datblygu felly byddwn yn ymestyn yr Alffa i 30 Mehefin.

Bydd hyn yn caniatáu inni gasglu’r dystiolaeth angenrheidiol, parhau i ddatblygu’r gwasanaethau sydd eisoes yn eu lle a chytuno ar y camau nesaf. Os oes gennych unrhyw adborth ar sut yr aeth y cam Alffa hyd yn hyn, neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer meysydd ffocws ar gyfer y cam nesaf, byddwn yn hapus iawn i chi gysylltu â mi trwy brosiect Cyd gyda'ch adborth.

Diolch!

 

David Nicholson

Prif Berchennog Cyfrifol – prosiect Alffa Cyd