Arbed 83% o ddŵr, gwaith i hyd at 100 o bobl leol ac arbedion cost o £12,000
1 munud
Cyngor ar ddiwydiant penodol
Cyngor ar faes polisi penodol
Mewn partneriaeth â Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol Cymru, mae Lyreco yn darparu gwasanaeth copïo ac ailgylchu papur arloesol, cenedlaethol ar gyfer 39 o randdeiliaid sector cyhoeddus Cymru, gan greu gwaith ar gyfer hyd at 100 o bobl leol.
Y cyntaf o'i fath yng Nghymru, mae'r fframwaith ar gyfer deunydd ysgrifennu a phapur copïo yn sicrhau canlyniadau cynaliadwy cadarnhaol, yn ogystal â manteision cyflogaeth ac addysgol i gymunedau difreintiedig lleol.