Welsh Public Sector Collaborative Food Framework – Caerphilly Borough Council
Ystadegau allweddol
Cyfanswm gwariant y fframwaith oedd £24m ym mlwyddyn ariannol 25–XNUMX
XNUMX o sefydliadau sector cyhoeddus yn cymryd rhan (a mwy yn ymuno)
XNUMX+ o lotiau rhanbarthol a nwyddau penodol er mwyn gwella mynediad i BBaCh
19 Cyflenwr wedi cael lle ar y fframwaith — XNUMX ohonynt o Gymru
Yr Hyn a Gyflawnwyd
-
Un fframwaith gynhwysol
i gymryd lle prosesau lleol tameidiog ledled Cymru
-
Safonau cyson + hyblygrwydd lleol
trwy arweinyddiaeth ganolog a chyd-ddylunio
-
Gwell cystadleuaeth a gwerth am arian
trwy brynu ar y cyd
-
Llai o ddyblygu
o ran canfod a rheoli contractau ar draws sefydliadau
Uno Cymru drwy Gaffael Bwyd
Crëwyd Grŵp Bwyd Cydweithredol Sector Cyhoeddus Cymru (WPSCFG) i fynd i'r afael â phrosesau caffael bwyd tameidiog ledled Cymru. Gan fod cyrff cyhoeddus yn arfer prynu'n annibynnol, roedd cyflenwyr llai yn ei chael hi’n anodd manteisio ar gyfleoedd, ac roedd anghysondeb o ran sut roedd blaenoriaethau cenedlaethol Cymru, megis cynaliadwyedd a gwerth cymdeithasol, yn cael eu cymhwyso
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, daeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ag 19 o sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru ynghyd i gyd-ddylunio un fframwaith caffael bwyd gynhwysol ac addas i'r dyfodol. Eu nod oedd symleiddio prosesau, cryfhau cadwyni cyflenwi lleol, ac ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) mewn arferion caffael bob dydd
Cafodd ei ddyfarnu ym mis Ionawr 2024, ac mae’r fframwaith yn nodi dechrau dull newydd, cydweithredol o gyrchu bwyd yn y sector cyhoeddus ledled Cymru
Model Cydweithredol, Hyblyg a Chyfeillgar i Gyflenwyr
Datblygodd WPSCFG fodel caffael sydd wedi’i seilio ar lywodraethiant cryf, cydweithredu agored, a hygyrchedd i sefydliadau a chyflenwyr fel ei gilydd. Darparodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili arweinyddiaeth ganolog, gan gynnal safonau cyson heb golli hyblygrwydd i alluogi sefydliadau fodloni anghenion lleol
Un datblygiad allweddol oedd creu dros 150 o lotiau rhanbarthol a nwyddau penodol sydd wedi'u dylunio i helpu BBaCh i oresgyn rhwystrau rhag ymuno, ac i ddarparu ar gyfer anghenion ysgolion, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Bu’r sefydliadau sy'n cymryd rhan yn cynllunio manylebau ar cyd, yn gwerthuso tendrau, ac yn dewis cyflenwyr, gan sicrhau rhannu perchnogaeth ar bob cam
Roedd ymgysylltu â chyflenwyr yn ganolog i’r broses, gyda digwyddiadau a chlinigau un-i-un cyn caffael yn helpu busnesau, mawr a bach, i ddeall y gofynion ac i gystadlu'n effeithiol. Ymgorfforwyd Fframwaith Gwerth Cymdeithasol Llywodraeth Cymru[RRXNUMX][STXNUMX], system TOM Cymru, er mwyn sicrhau bod buddion cymunedol, amgylcheddol ac economaidd yn cael eu hymgorffori mewn contractau o'r cychwyn cyntaf
Darparu Gwerth a Chryfhau Cymunedau Ledled Cymru
Mae'r fframwaith eisoes wedi dangos manteision sylweddol, mesuradwy. Ym mlwyddyn ariannol XNUMX–XNUMX, roedd cyfanswm gwariant y fframwaith dros £XNUMX miliwn, gan ryddhau grym prynu cyfunol a chan wella gwerth am arian i'r holl gyfranogwyr. Roedd y gwaith ymgysylltu â chyflenwyr yn fwy llwyddiannus na’r disgwyl, gan ddenu XNUMX+ o gyflenwyr â diddordeb, a dyfarnwyd lleoedd i XNUMX, XNUMX ohonynt yn fusnesau o Gymru. Llwyddodd hyn i ehangu cadwyni cyflenwi lleol a chryfhau'r economi sylfaenol
Mae’r sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru sy'n defnyddio'r fframwaith bellach yn elwa o lai o ddyblygu, cyrchu symlach, cystadleuaeth gryfach a chysondeb o ran rheoli contractau. Mae safonau ansawdd wedi codi o ganlyniad i rannu Dangosyddion Perfformiad Allweddol, adolygiadau cyflenwyr rhagweithiol a meini prawf cynaliadwyedd cadarn
Mae’r cynlluniau gwerth cymdeithasol sydd wedi'u hymgorffori wedi cael effaith gymunedol ystyrlon, gan gynnwys rhoddion banc bwyd, cefnogaeth i Ganolfannau Clyd, a gweithdai bwyta'n iach i blant. Gyda mecanweithiau i ychwanegu cynhyrchion a chyflenwyr newydd trwy gydol tymor y contract, mae'r fframwaith yn parhau i fod yn addasadwy ac yn addas ar gyfer y dyfodol
Mae WPSCFG bellach wedi'i ehangu i 21 sefydliad, ac mae’n enghraifft bwerus o sut y gall cydweithio drawsnewid caffael a darparu budd cymunedol parhaol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o fod wedi arwain y fenter wirioneddol gydweithredol hon, gan ddod â phartneriaid sector cyhoeddus ledled Cymru ynghyd i ddarparu dull mwy cynhwysol, cynaliadwy a chymunedol o gaffael bwyd. Mae'r wobr hon yn cydnabod nerth cydweithio er mwyn cryfhau cadwyni cyflenwi lleol a darparu gwerth gwirioneddol i'n cymunedau