Botwm ôl

Cymharu opsiynau pecynnu llaeth ar gyfer ysgolion cynradd Sir Fynwy

2 munud
Cyngor ar ddiwydiant penodol
Cyngor ar faes polisi penodol

Mae effeithiau amgylcheddol yn gynyddol bwysig wrth gaffael gwasanaethau llaeth mewn ysgolion a rhaid eu hystyried ynghyd â chost y contract a meini prawf caffael eraill.

Bu WRAP Cymru’n gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy i adolygu’r dewis roedden nhw wedi’i wneud i newid o boteli llaeth plastig untro i boteli llaeth gwydr ailddefnyddiadwy.

Fel rhan o’r adolygiad, archwiliwyd opsiwn arall hefyd – system pergal, sy’n cadw symiau mawr o laeth mewn cynhwysydd sy’n ffitio mewn oergell gyflenwi.

Datblygwyd model i amcangyfrif yr effeithiau cost a charbon a oedd yn gysylltiedig â phob un o’r tri math o gynhwysyddion llaeth. Dangosodd y canfyddiadau fod poteli llaeth gwydr a’r system pergal ill dau’n cynnig lleihad mewn allyriadau carbon a chostau is yn gyffredinol.

I ddarllen yr astudiaeth achos yn llawn, ewch i wefan WRAP Cymru:

Ymweld â'r safle

Rhannwch yr Astudiaeth Achos hon:

Dweud eich dweud

Os ydych chi wedi dod ar draws unrhyw erthyglau da, fideos neu gynnwys arall yr hoffech ei rannu gyda chymuned Cyd yna cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn rhannu eich cynnwys.

Cysylltwch â ni