Sicrhau gwerth cymdeithasol drwy weithgarwch masnachol cydweithredol
Beth yw’r ffordd orau o sicrhau gwerth cymdeithasol drwy gaffael yn ystod prosiect seilwaith mawr? Yn y darn hwn, rydym yn clywed gan y tîm sy’n gweithio ar gynllun Metro De Cymru.
Mae’r pwysau ar brosiectau ar y raddfa hon i ganolbwyntio ar gyflawni’r prosiect yn enfawr. Felly, fy argymhelliad os ydych yn bwriadu gwella’r broses gaffael gyda gwerth cymdeithasol mewn golwg yw cydnabod mai’r hyn y mae’n rhaid ichi ei gael yw unigolion sy’n canolbwyntio ac yn ymroddedig i werthoedd cymdeithasol. Fel arall bydd yn cael ei ysgubo o’r neilltu gan bwysau cyflawni prosiect o’r maint yma.
Karl Gimore, Cyfarwyddwr Seilwaith y Rheilffyrdd, Trafnidiaeth CymruEisiau gwybod mwy? gwyliwch y clip:
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i arwain gan Drafnidiaeth Cymru (TFW) ac mae’n cael ei gyflawni drwy’r Gynghrair Craidd; partneriaeth rhwng y sector preifat a’r sector cyhoeddus.
Dweud eich dweud
Os ydych chi wedi dod ar draws unrhyw erthyglau da, fideos neu gynnwys arall yr hoffech ei rannu gyda chymuned Cyd yna cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn rhannu eich cynnwys.
Cysylltwch â ni