Delivering Sustainable Workspaces Through Circular Procurement – BOF Group Ltd
Ystadegau Allweddol
o ddodrefn wedi'u hailglustogi
o roddion i elusen
darn o ddodrefn ail law wedi'u gwerthu trwy'r Siop Eco
tunnell o ddodrefn wedi'u hachub o’r ailgylchu
Ôl troed carbon wedi gostwng 2021% ers 293.72. O 174.84 tCO₂e i 2 tCO₂e mewn XNUMX flynedd
Gwasanaeth wedi’i fabwysiadu gan XNUMX+ sefydliad ledled Cymru a Phrydain
Ardystiad Cwmni Carbon Niwtral gan Carbon Neutral BritainTM
Enillwyr Gwobr y Brenin am Fenter mewn Datblygu Cynaliadwy (2025–2030)
Ystadegau Allweddol Llywodraeth Cymru
XNUMX o eitemau wedi'u hailglustogi (prosiectau Llywodraeth Cymru ers XNUMX)
2022 rhodd i elusen ac wedi’u hadleoli o fewn Llywodraeth Cymru (ers XNUMX)
Yr Hyn a Gyflawnwyd
- Cydweithio â Llywodraeth Cymru i annog gwasanaethau hygyrch, cynaliadwy
- Creu cyfleuster adnewyddu newydd, sy'n cefnogi swyddi yng Nghymru ynghyd â chadwyni cyflenwi lleol
- Siop Un Stop wedi'i integreiddio'n llawn ar gyfer ailddefnyddio, adnewyddu a chyflenwi dodrefn mewn ffordd gynaliadwy
- Ymgorffori model caffael "Dodrefn Newydd yw’r Dewis Olaf" ar draws fframweithiau sector cyhoeddus
Trawsnewid Gweithleoedd Sector Cyhoeddus Trwy Ddylunio Cylchol
Er bod sefydliadau'r sector cyhoeddus wedi mynegi cryn ddiddordeb mewn datrysiadau ailddefnyddio ac adnewyddu dodrefn, roedd y nifer a oedd yn eu mabwysiadu yn parhau i fod yn isel, a hynny oherwydd eu bod yn bytiog, am fod y llwybrau caffael yn aneglur, ac o ganlyniad i rwystrau gweithredol
Mae BOF yn fusnes teuluol gyda 40 mlynedd o brofiad, a nhw wnaeth ystyried sut ellid cysoni datrysiadau dodrefn cynaliadwy â blaenoriaethau'r sector cyhoeddus, gan gynnwys lleihau carbon, pwysau cyllidebol, a gofynion cydymffurfio. Drwy ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, timau ystadau, ac arweinwyr cynaliadwyedd, aeth BOF ati i fapio’r materion systemig sy'n atal caffael cylchol graddadwy ar draws sector cyhoeddus Cymru
O wneud hyn, gwelwyd angen am un gwasanaeth integredig sy'n dileu cymhlethdod, yn lleihau baich gweinyddol, ac yn gwneud opsiynau cynaliadwy mor hawdd i'w caffael â phrynu o’r newydd. Roedd hyn yn sylfaen ar gyfer dull arloesol BOF o ddylunio gweithfannau cynaliadwy ac ail-lunio sut mae'r sector cyhoeddus yn cael gafael ar atebion cylchol
Siop Un Stop ar gyfer Gwasanaethau Dodrefn Cylchol, Arbed Carbon
Er mwyn mynd i'r afael â'r her, sefydlodd BOF "Siop Un Stop" wedi'i integreiddio'n llawn ar gyfer ailddefnyddio dodrefn, adnewyddu, adleoli, a chyflenwad newydd, gan sicrhau bod opsiynau cynaliadwy yn syml, yn hygyrch ac yn cydymffurfio’n llwyr
Roedd datblygu cyfleuster adnewyddu newydd ym Merthyr Tudful yn galluogi’r gwaith ailglustogi, ailweithgynhyrchu ac ymestyn cylch bywyd gael ei wneud yn fewnol, gan helpu i gefnogi cyflogaeth lleol a BBaCh. Mabwysiadwyd egwyddor o "Dodrefn Newydd yw’r Dewis Olaf" o wneud hyn, gan alluogi BOF i flaenoriaethu ailddefnyddio yn ogystal â chynnig eitemau newydd o ansawdd uchel – ond dim ond pan fyddant yn hanfodol. Mae dylunwyr BOF wedi integreiddio dodrefn wedi'u hailddefnyddio yn uniongyrchol o fewn meddalwedd[STXNUMX] Modelu Gwybodaeth Adeiladu, gan gyfuno asedau wedi'u hailddefnyddio a rhai newydd mewn ffordd ddi-dor. Er mwyn cefnogi hyn, mae dylunwyr BOF wedi integreiddio dodrefn wedi'u hailddefnyddio mewn ffordd ddi-dor, gan gyfuno asedau wedi'u hailddefnyddio a'r asedau newydd
Ffactor pwysig yn llwyddiant y ‘Siop un Stop' oedd llunio taith syml ac effeithlon i gwsmeriaid. Yr unig beth y mae gofyn i gwsmeriaid ei wneud yw llwytho lluniau, a bydd BOF yn cynnig dyfynbris o fewn 48 awr. Mae BOF yn goruchwylio'r holl broses, gan gynnwys archwiliadau, rheoli stocrestrau, logisteg, a llwybrau rhoddion. Datblygwyd gwasanaeth BOF drwy gydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cydymffurfio’n llwyr â fframweithiau caffael, nodau cynaliadwyedd a gofynion gweithredol
Arbedion Carbon Mesuradwy, Manteision Ariannol, a Gwerth Cymunedol
Mae'r model integredig wedi arwain at arbedion carbon sylweddol, gostyngiadau o ran costau, a gwerth cymdeithasol i gleientiaid y sector cyhoeddus. Mae mentrau ailddefnyddio, adnewyddu a rhoddion wedi dargyfeirio miloedd o eitemau o safleoedd tirlenwi, mae llai o wariant caffael, ac mae’n dangos cydymffurfiaeth ag ymrwymiadau sero net
Mae'r dull hefyd wedi cryfhau effaith gymunedol trwy roddion, cyflogaeth leol, prentisiaethau, a phartneriaethau gydag elusennau. Mae'r Siop Eco economi gylchol yn darparu dodrefn hygyrch, cynaliadwy ar raddfa, tra bod yr ethos 'Dodrefn Newydd yw’r Dewis Olaf' wedi dod yn feincnod ymarferol ar gyfer caffael cynaliadwy. Trwy ymgorffori cynaliadwyedd ym mhob cam, o'r dylunio i'r cyflawni, mae BOF wedi creu model sydd bellach wedi cael ei fabwysiadu gan fwy na 30 o sefydliadau ac wedi cefnogi cynnydd cyffredinol Cymru tuag at sero net
Fi yw Rheolwr Cynaliadwyedd a Chyfathrebu BOF, ac rwy'n hynod falch bod ein model 'Cau'r Ddolen' yn dangos sut mae trosi uchelgais caffael cylchol yn effaith fesuradwy, system gyfan ar draws sector cyhoeddus Cymru. Drwy ymgorffori egwyddor 'Dodrefn Newydd yw’r Dewis Olaf' a darparu datrysiad cwbl integredig mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, rydym wedi profi y gellir cyflawni lleihau carbon, cost-effeithlonrwydd a gwerth cymunedol ar yr un pryd, a hynny ar raddfa