Menter caffael arloesol yn creu sŵn
Bydd offerynnau cerdd carbon niwtral yn cael eu rhoi i bob disgybl 7 oed yng Nghymru, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru a llwybr prynu arloesol.
Yn unol â’r Cynllun Cenedlaethol newydd ar gyfer Addysg Cerddoriaeth, bydd y plant yn cael eu hofferyn cerdd pres neu chwythbrennau ‘profiad cyntaf’ eu hunain yn yr ysgol a fydd wedi eu gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Bu Tîm Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru (WGCD) yn gweithio mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i gaffael 53,000 o offerynnau carbon niwtral drwy pMusic Cymru. Mae pMusic Cymru yn gonsortiwm sy'n cynnwys dwy fenter gymdeithasol o Gymru; Elite Solutions a Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful (MITB), y ddau yn gweithio ochr yn ochr â Warwick Music Limited.
Gan weithio gyda CLlLC, sefydlodd tîm WGCD system brynu ddeinamig (DPS) i ddarparu llwybr cydymffurfiol i'r farchnad ar gyfer awdurdodau lleol. Mae'r DPS yn cynnwys 'categori neilltuol' ar gyfer gweithdai cyflogaeth gwarchodol lle mae o leiaf 30% o weithwyr y gweithdai hynny'n weithwyr anabl neu ddifreintiedig. Mae hyn yn cyfrannu'n uniongyrchol at y nodau llesiant o gefnogi Cymru fwy ffyniannus, mwy cyfartal, iachach a chydnerth. Llwyddodd pMusic Cymru i sicrhau lle ar y Cytundeb DPS. Defnyddiodd CLlLC y cytundeb i ddyfarnu contract gwerth £500k i PMusic Cymru ar gyfer cynhyrchu a chyflenwi offerynnau pBuzz a pCorder, a bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn y ddau weithdy cyflogaeth gwarchodol.
Mae'r dull gweithredu wedi cefnogi economi Cymru, wedi sicrhau y gwerth gorau am arian, ac wedi creu cyfleoedd gwaith i weithwyr sy'n byw gydag anabledd neu sydd dan anfantais.
Rwy'n falch iawn bod MTIB ac Elite Solutions wedi gallu sicrhau a chreu llawer o swyddi newydd a swyddi presennol yng Nghymru drwy gais llwyddiannus PMusic. Mae'r contract hwn yn dangos sut y gallwn ni ddefnyddio cyllid i ychwanegu gwerth cymdeithasol a hyrwyddo cynaliadwyedd. Ar yr un pryd, rydyn ni wedi sicrhau y bydd yr offerynnau hyn yn cael eu cynhyrchu ar raddfa genedlaethol ac mewn ffordd sy'n cynrychioli gwerth am arian.
Rebecca Evans, y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth LeolMae Llywodraeth Cymru wedi gwneud prosiect arbennig yn bosibl a fydd yn gweld degau o filoedd o blant yng Nghymru yn cael mynediad at offerynnau cerdd arobryn a charbon-niwtral am y tro cyntaf erioed, wedi’u cydosod ym Merthyr Tudful. Rydyn ni wedi mwynhau gweithio gyda'n partneriaid sef Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful ac Elite, gan weld cylch positif o fuddsoddiad sydd o fudd i blant Cymru, ysgolion Cymru, economi Cymru a chyflogaeth i bobl ddall, anabl a difreintiedig. Mae astudiaethau ymchwil yn dangos y bydd canlyniadau i blant yn gwella'n sylweddol pan fyddan nhw’n gallu manteisio ar bynciau creadigol o ansawdd uchel. Mae’r prosiect hwn yn lasbrint y mae’r byd addysg cerddoriaeth yn ei wylio gyda diddordeb brwd.
Steven Greenall, Prif Weithredwr Warwick Music Group, prif bartner yng nghonsortiwm PMusic CymruRydyn ni’n falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y strategaeth genedlaethol hon i gaffael a chydosod offerynnau yng Nghymru drwy fuddsoddi mewn offerynnau cynaliadwy o ansawdd rhagorol sydd wedi’u gwneud ym Merthyr Tudful. Bydd yr offerynnau'n cael eu darparu i blant mewn ysgolion cynradd ledled Cymru er mwyn helpu i gefnogi amcanion y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol newydd. Bydd yr offerynnau hyn yn galluogi dysgwyr ifanc i brofi llawenydd cerddoriaeth drwy chwarae eu hofferynnau cerdd cyntaf. Hoffem ddiolch i holl gonsortiwm PMusic Cymru sydd wedi creu'r offerynnau gwych hyn ar gyfer disgyblion ar draws Cymru tra hefyd yn sicrhau bod llawer o swyddi yn cael eu cefnogi a'u creu yn y broses.
Chris Llewelyn, Prif Weithredwr CLlLCAm fwy o wybodaeth e-bostiwch:
Dweud eich dweud
Os ydych chi wedi dod ar draws unrhyw erthyglau da, fideos neu gynnwys arall yr hoffech ei rannu gyda chymuned Cyd yna cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn rhannu eich cynnwys.
Cysylltwch â ni