Chwilio Lleol: Llenwi'r Bwlch rhwng Cyflenwyr – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Ystadegau Allweddol
Canfod a chysylltu â XNUMX+ o gyflenwyr a oedd yn anhysbys i ni gynt[S
Yr Hyn a Gyflawnwyd
- Offeryn canfod cyflenwyr sy’n cael ei bweru gan AI i ddod o hyd i fusnesau lleol a allai fod yn anodd eu cyrraedd
- Model graddadwy sy'n integreiddio â systemau caffael a llifoedd gwaith presennol
- Ymgysylltiad cryfach â BBaCh, mentrau cymdeithasol a microfusnesau trwy grwpiau ffocws, clinigau ac ymgysylltu cynnar â'r farchnad
- A collaborative innovation partnership between Caerphilly CBC, Simply Do, legal partners and local suppliers
Cau'r Bwlch Gwelededd rhwng Cyflenwyr
Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC) yn cael trafferth gweld cyflenwyr lleol oherwydd bod offer caffael traddodiadol yn aml yn methu â chanfod unig fasnachwyr, microfusnesau a BBaCh sydd heb fawr o bresenoldeb ar-lein. Roedd hyn yn mygu cystadleuaeth ac yn ei gwneud hi'n anoddach i gefnogi cyfoeth cymunedol a thwf economaidd lleol
Roedd y Cyngor hefyd eisiau symud oddi wrth brynu adweithiol a thuag at gaffael doethach, sy'n cael ei yrru gan ddata sy'n cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a'i nod o dyfu'r economi leol. I wneud hyn, roedd angen ffordd o ymgysylltu â chyflenwyr lleol cymwys a oedd â diddordeb ond ddim yn ymddangos ar pyrth caffael traddodiadol. Gan gydnabod yr her hon, ymunodd y Cyngor â Simply Do i weld sut y gallai AI helpu i lenwi'r bwlch, cefnogi blaenoriaethau diwygio ehangach, a chreu marchnad fwy cynhwysol, sy'n barod i'r dyfodol
Chwilio Lleol: Peiriant Darganfod sy’n cael ei Yrru gan AI
Aeth CBSC a Simply Do ati i ddylunio "Chwilio Lleol" ar y cyd, offeryn darganfod pwerus sy’n defnyddio AI ac a ddatblygwyd trwy fodel sy’n dechrau gyda gwerthusiad dichonoldeb ac yn gorffen gyda defnyddio cyflenwyr. Gan ddefnyddio prosesu iaith naturiol a dysgu peirianyddol, mae'r system yn sganio data strwythuredig ac anstrwythuredig o ffynonellau sy’n cynnwys gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn nodi cyflenwyr sydd heb gofrestru ar systemau traddodiadol, e.e. Tŷ'r Cwmnïau neu borth caffael safonol
Mae'r offeryn Chwilio Lleol wedi galluogi CBSC i adnabod ac i ddeall busnesau lleol yn gyflym trwy wirio gwybodaeth allweddol yn awtomatig, adolygu eu presenoldeb ar-lein, ac yna darparu ffordd hawdd o gysylltu â nhw mewn swmp. O ganlyniad, gall swyddogion caffael greu rhestrau o gyflenwyr dibynadwy yn gynt o lawer a chyda llai o ymdrech
Yn ystod y broses ddylunio, roedd gweithdai a ddyluniwyd ar y cyd, grwpiau ffocws â chyflenwyr, a goruchwyliaeth gyfreithiol yn sicrhau cydymffurfiaeth, gweithrediad diogel a dyluniad sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae'r datrysiad digidol-yn-gyntaf hwn yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen, gan symud caffael oddi wrth waith llaw gan dimau ar wahân a thuag at ddull mwy deallus, rhagweithiol a graddadwy
Gyrru Ffyniant Lleol Trwy Gaffael Clyfar
Mae'r fenter Chwilio Lleol yn newid sylfaenol yn y ffordd y mae Caerffili yn canfod ac yn ymgysylltu â'i farchnad. Mae mwy na 650 o gyflenwyr nad oedden ni’n gwybod amdanynt gynt bellach wedi'u nodi, gan arwain at gystadleuaeth gryfach, cadwyni cyflenwi mwy gwydn, a chontractau’n cael eu dyfarnu i sawl busnes lleol. Mae’r gwaith ymgysylltu cynnar wedi golygu bod cyflenwyr bellach yn fwy parod wrth ddechrau defnyddio’r broses dendro, gan wella ansawdd y cais a lleihau'r risg mewn meysydd gwasanaeth amser-hanfodol
Un llwyddiant amlwg yw’r cwmni gosod nwy lleol sydd wedi sicrhau contract tair blynedd, gan alluogi prentisiaethau newydd, buddsoddiad cymunedol lleol a thwf sy'n cyd-fynd ag uchelgeisiau sero-net. Mae'r fenter bellach yn cael ei chydnabod fel model graddadwy a throsglwyddadwy, gyda chynlluniau i’w chyflwyno’n ehangach ledled Cymru. Trwy gyfuno arloesedd AI gyda chefnogaeth gref gan gyflenwyr, mae CBSC wedi creu dull caffael sy'n cynnig gwerth cymdeithasol, effaith economaidd a chynaliadwyedd hirdymor
Rydym wrth ein bodd bod Chwilio Lleol wedi cael ei gydnabod fel enghraifft o drawsnewid caffael. Trwy gydweithio â Simply Do a’r defnydd o dechnoleg AI arloesol, rydym wedi hwyluso mynediad at gannoedd o BBaCh a microfusnesau lleol, a thrwy hynny wella cadwyni cyflenwi a chynhyrchu buddion cymdeithasol ac economaidd sylweddol