Caffael mwy cynaliadwy wrth ddefnyddio Warp-it ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
2 munud
Cyngor ar ddiwydiant penodol
Cyngor ar faes polisi penodol
Yn 2018, dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda archwilio ffyrdd o arbed arian ac adnoddau, gyda phwyslais ar ganfod ble gellid ailddefnyddio offer yn hytrach na’i ddisodli.
O ganlyniad, mae’r bwrdd iechyd wedi cyflawni arbedion ariannol o £230,000. Mae hyn yn cyfateb i ddargyfeirio 41 o dunelli o wastraff a lleihad o 161 o dunelli o CO2e.
Cyflawnwyd hyn oll drwy ddefnyddio’r llwyfan Warp It – adnodd ar-lein sy’n gweithio fel safle clirio ar gyfer asedau sydd ar gael i’w hailddefnyddio o fewn, a rhwng, sefydliadau.