Darparu Caffael sy'n Gyfrifol yn Gymdeithasol
Mae tirwedd caffael cyhoeddus yng Nghymru yn newid. Bydd y diwygiadau sy’n cael eu cynnig yn sbarduno newid ymddygiadol a diwylliannol o ran prynu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru – gan ei wneud yn symlach, yn fwy hyblyg ac yn dryloyw, tra’n sicrhau bod canlyniadau llesiant yn cael eu cyflawni.
Mae’r Ddyletswydd Caffael sy’n Gymdeithasol Gyfrifol yn nodwedd bwysig o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), a bydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio roi llesiant amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol wrth wraidd eu gweithgarwch caffael. Yn ystod y sesiwn hon, bydd mynychwyr yn archwilio cysyniad a chymhwysiad caffael sy’n gyfrifol yn gymdeithasol, yn trafod dulliau gweithredu ac yn rhannu arfer gorau, mewnwelediadau ac offer ymarferol i integreiddio caffael sy’n gyfrifol yn gymdeithasol yn gymesur o fewn eu sefydliad.
Dweud eich dweud
Os ydych chi wedi dod ar draws unrhyw erthyglau da, fideos neu gynnwys arall yr hoffech ei rannu gyda chymuned Cyd yna cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn rhannu eich cynnwys.
Cysylltwch â ni