Canolfan wybodaeth ar gyfer gweithwyr caffael proffesiynol yng Nghymru – Sesiwn Cydrannu – 26 Medi 2023
Cynhaliwyd gweminar rhannu gwybodaeth Cydrannu am 1pm – 2pm ar 26 Medi, mae’r fideo ar gael isod.
Yn y fideo hwn, mae Richard Dooner, Rheolwr Rhaglen gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), yn ymuno â ni i siarad am ei benderfyniad i gyfarwyddo at wefan Cyd fel man cychwyn ar gyfer canllawiau ac adnoddau caffael – gan gryfhau ein cymuned a chael gwared ar ddyblygu.
Bydd y sesiwn hon hefyd yn ymdrin â gwerth ein gofod ar-lein o safbwynt diwygio caffael sydd ar fin digwydd, a sut rydym yn rhagweld y bydd y wefan yn esblygu, gan feddwl am y newidiadau sydd ar ddod.
Dweud eich dweud
Os ydych chi wedi dod ar draws unrhyw erthyglau da, fideos neu gynnwys arall yr hoffech ei rannu gyda chymuned Cyd yna cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn rhannu eich cynnwys.
Cysylltwch â ni