Digwyddiadau
23 Ebr
Cyflwyniad i Ddeddf Caffael 2023
11yb - 12yb
Ar-lein
Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â:
- Y newidiadau allweddol rhwng y rheoliadau blaenorol a’r Ddeddf Caffael, a sut y gallai hynny effeithio ar weithdrefn gaffael newydd.
- Y buddion y bydd y Ddeddf Caffael yn eu cynnig (hyblygrwydd, tryloywder, gwerth i drethdalwyr, busnesau bach a chanolig a buddion cymdeithasol ehangach).
- Pa gamau y bydd angen i chi eu cymryd a’u hystyried i roi’r Ddeddf Caffael ar waith (diweddaru’r Rheolau Sefydlog ac ati).
- Pa adnoddau a hyfforddiant pellach sydd ar gael i gefnogi eich sefydliad i ysgogi newid diwylliannol ac ymddygiadol i fanteisio ar hyblygrwydd Deddf Caffael 2023.
Dweud eich dweud
Os ydych chi wedi dod ar draws unrhyw erthyglau da, fideos neu gynnwys arall yr hoffech ei rannu gyda chymuned Cyd yna cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn rhannu eich cynnwys.
Cysylltwch â ni