Eicon cefn
Digwyddiadau
Dysgu dros ginio
26 Chw

#Dysgu | Gwerth Cymdeithasol mewn Adeiladu… Gweithiwch yn Gallach nid yn galetach

12yp
Ar-lein

Mae'r Fframwaith Partneriaethau Caffael yn eich gwahodd i sesiwn ginio a dysgu sy'n canolbwyntio ar ganllawiau ymarferol ar werth cymdeithasol. Bydd y sesiwn hon yn rhoi eglurder ar eich cyfrifoldeb cyfreithiol o ran gwerth cymdeithasol ac yn dangos arfer gorau ar sut i ymgysylltu â chontractwyr.

Dyma ragflas o’r sesiwn gyda sesiwn holi-ac-ateb i orffen:

  1. Beth yw Gwerth Cymdeithasol, eich rhwymedigaeth gyfreithiol, pam ei bod yn bwysig gwneud yn dda?
  2. Gwerth Cymdeithasol ar Waith - Sut i deilwra Gwerth Cymdeithasol i'ch prosiect
  3. Arfer gorau, cwestiynau tendro Gwerth Cymdeithasol
  4. Sicrhau bod contractwyr yn cyflawni fel yr addawyd.

Archebwch eich lle yma.

Dweud eich dweud

Os ydych chi wedi dod ar draws unrhyw erthyglau da, fideos neu gynnwys arall yr hoffech ei rannu gyda chymuned Cyd yna cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn rhannu eich cynnwys.

Cysylltwch â ni