Dysgu Dros Ginio – Gweminar sy'n archwilio Risgiau Rigio Cynigion ym maes Caffael Cyhoeddus
Mae Cyd, sy'n cefnogi gallu ym maes caffael cyhoeddus a masnachol ledled Cymru, yn falch o groesawu'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) i gyflwyno gweminar Dysgu dros Ginio sy'n archwilio'r risgiau o ran rigio cynigion ym maes caffael cyhoeddus, a sut y gall cyrff cyhoeddus adnabod ac ymateb i ymddygiad cartél.
Gyda thua £11.4 biliwn yn cael ei wario bob blwyddyn ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru, bydd y sesiwn yn cefnogi sefydliadau'r sector cyhoeddus i ddiogelu cystadleuaeth deg, sicrhau gwerth am arian a chydymffurfio â chyfraith cystadleuaeth a chaffael.
Beth fydd y digwyddiad yn ei drafod?
Bydd y weminar yn cynnwys:
- Trosolwg o rigio cynigion ac ymddygiad cartél ym maes caffael cyhoeddus
- Nodi arwyddion rhybuddio allweddol i gadw golwg amdanynt
- Astudiaethau achos sy’n deillio o ymchwiliadau diweddar gan y CMA i rigio cynigion
- Trosolwg o sut y gall y Ddeddf Caffael a basiwyd yn ddiweddar effeithio ar drefniadau gwaith ac arferion caffael yng Nghymru
- Cipolwg ar ddefnydd y CMA o offer dadansoddi data i ganfod achosion o rigio cynigion mewn data caffael cyhoeddus
- Canllawiau ymarferol ar y camau mwyaf diogel i'w cymryd wrth adrodd am ymddygiad amheus
Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad hwn?
Mae'r digwyddiad yn croesawu gweithwyr proffesiynol ym maes caffael yn y sector cyhoeddus a masnachol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chomisiynu, tendro, gwerthuso, rheoli contractau a llywodraethu, sydd am gryfhau eu dealltwriaeth o risgiau cystadleuaeth a dysgu sut i adnabod a mynd i'r afael ag ymddygiad posibl o rigio cynigion.
Cyflwynir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ac fe'i cynhelir gan wasanaeth Cyd, gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru
Am ragor o wybodaeth am Cyd ewch i - www.cyd.cymru
I gofrestru
- Bydd cynnwys cysylltiedig yn ymddangos yma pan fydd ar gael.
Dweud eich dweud
Os ydych chi wedi dod ar draws unrhyw erthyglau da, fideos neu gynnwys arall yr hoffech ei rannu gyda chymuned Cyd yna cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn rhannu eich cynnwys.
Cysylltwch â ni