Eicon cefn
Digwyddiadau
Dysgu dros ginio
15 Chw

Cyrsiau Byr PDC: Creu ac Arwain Timau Perfformiad Uchel

Mae timau yn gonglfeini yn y rhan fwyaf, os nad y cyfan, o weithleoedd. Mae’r modd y mae timau’n ymddwyn, yn llunio perthnasoedd gwaith ac yn ymgymryd â’u swyddogaethau mewn perthynas â’i gilydd felly o bwysigrwydd hanfodol.

Os ydych yn credu fod y datganiad uchod yn wir yna oni fyddech am wybod sut i sicrhau eich bod yn meithrin ac yn arwain Timau Perfformiad Uchel?

Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut olwg sydd ar dîm perfformiad uchel a bydd yn ystyried pob un o’r 6 Dimensiwn Allweddol sydd ei angen i Arwain Timau Perfformiad Uchel. NODYN I BRON: Cafodd hwn ei gynnwys yn nhrosolwg Pam ond efallai nad oes ei angen.

Beth yw tîm perfformiad uchel?

  • Diffinnir fel grŵp o bobl gyda swyddogaethau eglur a sgiliau ategol, yn cydredeg ac yn anelu at yr un nod.
  • Mae Timau Perfformiad Uchel yn gyson yn dangos lefelau uchel o gydweithio ac arloesi ac o’r herwydd yn cael canlyniadau uwch.

Dweud eich dweud

Os ydych chi wedi dod ar draws unrhyw erthyglau da, fideos neu gynnwys arall yr hoffech ei rannu gyda chymuned Cyd yna cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn rhannu eich cynnwys.

Cysylltwch â ni