Eicon cefn
Digwyddiadau
Dysgu dros ginio
31 Ion

#Dysgu | Cyflwyniad i gostio oes gyfan

Hoffai WRAP Cymru eich gwahodd i weminar ar gyflwyniad i gostio oes gyfan. Mae hwn yn rhoi enghreifftiau o arferion gorau ac astudiaethau achos o sut i roi dull caffael cynaliadwy ar waith gan ddefnyddio’r dull Costio Oes Gyfan. Wedi’i ddatblygu ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru, gellir defnyddio’r canllaw caffael i ddylanwadu ar benderfyniadau prynu a gwreiddio egwyddorion economi gylchol wrth graidd strategaeth eich sefydliad i gyflawni ymrwymiadau carbon isel a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd y weminar fer hon yn rhoi trosolwg o’r ddogfen ganllaw a chamau ymarferol o ran arfer gorau ym maes caffael. Dylid asesu cynhyrchion nid yn unig o ran pris a pherfformiad, ond hefyd ar eu heffaith amgylcheddol a chymdeithasol gan ddefnyddio ymagwedd costio cylch bywyd at gaffael sy'n ystyried effeithiau gydol oes gyfan y cynnyrch, o echdynnu'r deunyddiau crai i waredu'r cynnyrch terfynol. Gellir defnyddio’r canllaw i gyfeirio ato ar gyfer y broses gaffael gyffredinol, ac unrhyw bryd drwyddi draw.

Bydd ein Rheolwyr Cyfrifon Busnes WRAP Cymru hefyd wrth law i ymateb i’ch cwestiynau drwy gydol y digwyddiad.

Dweud eich dweud

Os ydych chi wedi dod ar draws unrhyw erthyglau da, fideos neu gynnwys arall yr hoffech ei rannu gyda chymuned Cyd yna cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn rhannu eich cynnwys.

Cysylltwch â ni