Wrap Cymru – Caffael Cynaliadwy ar Waith: Cyflwyniad
Rydym yn falch o'ch gwahodd i'r sesiwn sydd gennym ar y gorwel, Caffael Cynaliadwy ar Waith: Cyflwyniad, sydd wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus ac academaidd sy'n chwarae rhan mewn llunio penderfyniadau caffael cyfrifol.
Bydd y sesiwn awr hon yn darparu sylfaen glir ac ymarferol ar gyfer deall sut olwg sydd ar gaffael cynaliadwy mewn cyd-destunau byd go iawn. Gyda'n gilydd, byddwn yn archwilio egwyddorion craidd, heriau a manteision integreiddio cynaliadwyedd drwy gydol y cylch oes caffael, yn ogystal â sut i ymgorffori'r ystyriaethau hyn yn ystyrlon mewn gweithgareddau tendro.
Bydd y sesiwn hon yn cynnwys:
- Cyflwyniad i gymhwyso egwyddorion caffael cynaliadwy ar lefel sylfaenol
- Mewnwelediad i'r manteision a heriau y mae sefydliadau’n aml yn eu hwynebu ..
- Sut i ganfod cyfleoedd i ymgorffori cynaliadwyedd ym mhob cam o'r broses gaffael
Manylion y digwyddiad
P'un a ydych chi'n arwain ar faterion polisi, yn goruchwylio gweithgaredd caffael, neu'n cefnogi mentrau cynaliadwyedd o fewn eich sefydliad, bydd y sesiwn hon yn eich arfogi â'r wybodaeth sylfaenol i wneud penderfyniadau caffael mwy gwybodus a chyfrifol.
Gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni ar gyfer y cyflwyniad addysgiadol ac ymarferol hwn.
I gofrestru- Bydd cynnwys cysylltiedig yn ymddangos yma pan fydd ar gael.
Dweud eich dweud
Os ydych chi wedi dod ar draws unrhyw erthyglau da, fideos neu gynnwys arall yr hoffech ei rannu gyda chymuned Cyd yna cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn rhannu eich cynnwys.
Cysylltwch â ni