Ymwadiad

Mae Cyd.cymru (y cyfeirir ato fel Cyd) a'r holl ddeunydd ynddo wedi'i gynhyrchu at ddibenion cynorthwyo awdurdodau contractio gyda'u hymarferion caffael. Nid yw'n cymryd lle cyngor cyfreithiol ac ni ddylid dibynnu arno fel cyngor cyfreithiol, masnachol neu broffesiynol arall. Dylai awdurdodau contractio geisio eu cyngor annibynnol eu hunain pan fo hynny'n briodol.

I'r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, nid yw Cyd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am ddefnyddio, neu ddibynnu ar, ddeunyddiau a rennir. Ni fydd Cyd yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, boed hynny mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol neu fel arall, hyd yn oed os yw'n rhagweladwy, yn deillio o, neu'n gysylltiedig â defnyddio'r deunyddiau.

Mae ymdrechion rhesymol wedi'u gwneud i sicrhau bod yr wybodaeth yn gywir adeg ei chyhoeddi. Mae'r cynnwys sydd ar Cyd yn adlewyrchu sefyllfa'r gyfraith gaffael yng Nghymru ar adeg ei gyhoeddi ac nid yw'n ystyried unrhyw newidiadau dilynol i ddeddfwriaeth gaffael. Mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb yr awdurdod contractio i wirio a oes unrhyw newidiadau, neu newidiadau heb eu gweithredu, i ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'w gweithgarwch caffael.

Er bod deunyddiau a rennir drwy Cyd yn rhoi sylfaen i awdurdodau contractio, maent wedi'u cynllunio i gael eu teilwra i anghenion penodol ac unigryw gweithgarwch caffael yr awdurdod contractio, gan ystyried risgiau, gwerth a chyd-destun y contract unigol. Cyfrifoldeb yr awdurdod contractio yw defnyddio, teilwra ac ychwanegu at y deunyddiau ac i gyflogi cynghorwyr cyfreithiol, masnachol a phroffesiynol eraill i gynorthwyo gyda hyn, pan fo angen.