Sut mae uwchsgilio, ailsgilio, a dysgu sgiliau newydd fel ein bod yn barod ar gyfer trosglwyddo i Sero Net?
Dyma gyfle i glywed gan academyddion Prifysgol Caerdydd a fydd yn rhannu eu hymchwil i’ch helpu i baratoi ar gyfer y newidiadau sydd i ddod ym meysydd ynni, tai, trafnidiaeth, cynllunio a pholisi.
Mae'r rhaglen beilot hon yn eich galluogi i fynychu modiwlau sy'n bodoli eisoes sy'n cael eu haddysgu o fewn rhaglenni sydd wedi'u hen sefydlu yn y Brifysgol. Byddwch yn astudio ochr yn ochr â myfyrwyr amser llawn, gan ennill gwybodaeth a sgiliau arbenigol gwerthfawr mewn maes penodol.
Mae cost y cyrsiau yn llai oherwydd bydd angen eich mewnwelediad a'ch adborth ar y brifysgol i asesu'r galw a mireinio ei darpariaeth dysgu parhaus yn y maes hanfodol hwn.