Sut gall caffael wneud mwy na chyflawni contractau? Sut gall gefnogi busnesau Cymru, ysgogi arloesedd, a chreu effaith gymdeithasol ac amgylcheddol barhaol?
Mae Cyd wedi datblygu casgliad newydd o astudiaethau achos arfer gorau, gan dynnu ar gyflwyniadau enillwyr Gwobrau GO Cymru a’r rhai a gafodd ganmoliaeth uchel, i ddangos yn union beth sy'n bosibl. Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos sut mae caffael yn cael ei ddefnyddio fel offeryn strategol i gyflawni canlyniadau go iawn gan gynnwys cefnogi economïau lleol, galluogi ffyrdd mwy craff a mwy arloesol o weithio, a helpu sefydliadau i ymateb i rai o heriau mwyaf y byd sydd ohoni heddiw.
Ym mhob rhan o’r casgliad, fe welwch enghreifftiau ymarferol o sut mae caffael yn cryfhau cadwyni cyflenwi Cymru, yn agor cyfleoedd i BBaCh, ac yn ymgorffori cynaliadwyedd a gwerth cymdeithasol mewn gweithgareddau bob dydd. Maen nhw’n tynnu sylw at sut y gellir defnyddio gwariant y sector cyhoeddus yn fwy effeithiol i gefnogi swyddi, sgiliau, cymunedau, a chynnydd tuag at Sero Net.
P'un ai ydych chi'n chwilio am syniadau ffres, dulliau sydd wedi’u profi, neu ysbrydoliaeth i fynd â'ch gweithgarwch eich hun ymhellach, mae'r astudiaethau achos hyn yn cynnig gwybodaeth werthfawr y gallwch ei chymhwyso yn eich sefydliad.
Archwiliwch y casgliad llawn ar wefan Cyd a gweld beth sy'n bosibl trwy gaffael