A drawn graphic of a person thinking thoughts and categorising them by numbers. There are thought conversation bubbles all around the person' head. The colours in the image are shades of pink, and their reflective process looks very calm.

Croesawu Cyfnod Newydd ym maes Caffael Sector Cyhoeddus Cymru – myfyrdodau cychwynnol

Blog gan Carl Thomas, Arweinydd Rhanddeiliaid a Pholisi Diwygio’r Broses Gaffael, ar groesawu cyfnod newydd ym maes caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r Ddeddf Caffael, a ddaeth i rym ar 24 Chwefror 2025, yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn y broses barhaus o drawsnewid caffael sector cyhoeddus Cymru. Ers sawl blwyddyn, mae ein cymuned gaffael ragweithiol a chydweithredol yn y sector cyhoeddus wedi gweithio'n galed i sicrhau bod awdurdodau contractio Cymru yn barod iawn i fodloni'r gofynion cyfreithiol newydd. Mae'r gwaith paratoi trylwyr hwn wedi arwain at drosglwyddo diffwdan i'r gyfundrefn newydd, sy'n dyst i waith cynllunio, cydweithredu ac ymroddiad meddylgar ein gweithwyr caffael proffesiynol, yn ogystal â'r rhwydwaith cefnogi cryf sy'n bodoli ymhlith gweithwyr caffael proffesiynol yng Nghymru.

Beth sydd nesaf? Manteisio ar y cyfle

Y cwestiwn mawr nawr yw: Beth sy'n digwydd nesaf? Dros y 12 i 18 mis nesaf, mae gennym gyfle cyffrous i ymgorffori prosesau caffael effeithlon sy'n ychwanegu gwerth o fewn ein sefydliadau. Nawr yw'r amser i symud y tu hwnt i gydymffurfio’n unig a chofleidio'r sbectrwm llawn o hyblygrwydd y mae'r gyfundrefn newydd yn ei gynnig.

Yn ddiweddar fe es i un o'r gweminarau niferus yn ymwneud â'r Ddeddf Caffael, a sylwais ar anghydbwysedd trawiadol: roedd y gair “cydymffurfio” yn cael ei grybwyll yn llawer mwy na geiriau fel “hyblyg”, “diwylliant”, neu “ymddygiad” gyda’i gilydd. Mae'r ffocws hwn ar gydymffurfio yn adlewyrchu ein hymdrechion cychwynnol i sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol. Fodd bynnag, fel yr amlygais yn fy araith allweddol yn Procurex Cymru ym mis Tachwedd, mae'n bryd am newid sylfaenol.

Mae cyflwyno'r Ddeddf Caffael yn rhoi cyfle unigryw i ni ailystyried ein ffordd o feddwl:

  • O "fiwrocrataidd" i "syml"
  • O "atal" i "alluogi"
  • O "aneffeithiol" i "arloesol"
  • O "wrth-risg" i "ymwybodol o risg"
  • O “reolaeth” i “ymddiriedaeth”

Yn ddiweddar, fe wnes i ddod ar draws y cysyniad o 'lwybrau dewisol', sy'n ffurfio pan fydd pobl yn dewis cerdded ar hyd llwybrau sydd fwyaf uniongyrchol a chyfleus yn hytrach na dilyn llwybrau a osodwyd ymlaen llaw. Gwnaeth hyn i mi feddwl sut y dylem annog prosesau organig, greddfol sy'n deillio o anghenion ymarferol, wrth gaffael. Trwy ddilyn "llwybrau dewisol" ein sefydliad, gallwn feithrin arferion caffael symlach ac effeithiol sy'n gwasanaethu ein rhanddeiliaid yn wirioneddol a thrawsnewid ein hamgylchedd gwaith i roi gwerth uwch i'n sefydliadau a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Mae'r newid i'r dirwedd gaffael newydd yn gyfle i ailddychmygu sut rydym yn gweithio. Rwy'n annog pob gweithiwr caffael proffesiynol sector cyhoeddus a'i gydweithwyr i groesawu'r cyfnod hwn o drawsnewid a symud y tu hwnt i gydymffurfio tuag at brosesau caffael effeithlon, arloesol ac ystwyth sy'n sicrhau'r canlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol mwyaf posibl i Gymru. Gadewch i ni groesawu hyblygrwydd y gyfundrefn newydd a sicrhau caffael doethach ar gyfer Cymru gryfach.