Mae gallu a chapasiti yn heriau cyffredin ers blynyddodd i’r proffesiwn caffael yng Nghymru. Ac mae’r newidiadau helaeth yn yr amgylchedd dros y blynyddoedd diwethaf wedi gwaethygu’r sefyllfa.
Er bod y pandemig wedi codi proffil caffael fel modd strategol bwysig i gefnogi sefydliadau, roedd hefyd yn gosod heriau enfawr ar arweinwyr caffael, gyda recriwtio a chadw staff yn anoddach nag erioed oherwydd prinder pobl gymwys ar draws y proffesiwn.
Beth mae hyn yn ei olygu i weithlu caffael cyhoeddus Cymru?
Mae timau caffael o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn adrodd am fylchau enfawr o ran gwybodaeth a thalent oherwydd newid cyson o fewn y gweithlu. Nododd canllaw cyflog CIPS 2022 wahaniaeth o 20% rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus ar lefelau Uwch a Phroffesiynol. Nid yw’n syndod felly bod gweithwyr proffesiynol o fewn y sector cyhoeddus yn teimlo effaith yr argyfwng costau byw.
Er bod pwysau cyllidebol enfawr yn bodoli yn y sector cyhoeddus, nid yw taflu arian at y broblem yn rhywbeth all arweinwyr caffael cyhoeddus ledled Cymru ei wneud yn hawdd, ac nid fyddai, o reidrwydd, yr ateb cywir.
Y newidiadau sydd ar y gweill
Mae arweinwyr dan bwysau parhaus i gyd-bwyso blaenoriaethau’r sefydliad gyda'r angen i baratoi ar gyfer nifer o newidiadau sydd ar y gweill.
Mae’r rhain yn rhai o'r newidiadau mwyaf y bydd caffael yn y sector cyhoeddus wedi'u gweld mewn ymhell dros ddegawd. Maent yn cynnwys y Bil Caffael a Bil Caffael Partneriaeth Gymdeithasol (Cymru).
Yn y pen draw, bydd y newidiadau hyn yn cefnogi sefydliadau i dorri drwy fiwrocratiaeth y rheoliadau presennol a chreu prosesau symlach a mwy hyblyg. Ond, heb y bobl iawn gyda’r sgiliau cywir, fe allai’r newidiadau hyn gymryd amser i’w gweithredu a gallem fod yn aros yn hir i weld y system newydd yn cyrraedd ei photensial yn llawn.
Sut mae cadw a denu talent newydd?
Mae pontio’r bwlch capasiti yn flaenoriaeth allweddol. Drwy ddatblygu llif gyson o staff gyda’r sgiliau cywir, a darparu cymorth i’n gweithwyr proffesiynol talentog presennol, gallwn helpu cydweithwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn sector cyhoeddus yr 21ain ganrif. Er mwyn gwneud hyn yn iawn, mae angen eich help arnom.
Cyd – y ganolfan ragoriaeth caffael
Yn gynnar yn 2022, yn ystod cam darganfod i’r Ganolfan Ragoriaeth Caffael, cadarnhaodd y gymuned gaffael fod cynyddu gallu a chapasiti yn flaenoriaeth.
Yn dilyn y cam darganfod hwnnw, lansiwyd prosiect alffa i symud y prosiect yn ei flaen.
Bedwar mis i mewn i’r prosiect, dyma’r tri maes gwasanaeth allweddol yr ydym yn bwrw ymlaen â hwy yn gyflym, gyda’r gymuned gaffael yn llywio’r weithgaredd.
Y rhain yw:
- Creu / curadu deunyddiau hyfforddi sy'n ymwneud â gwahanol gamau o'r cylch bywyd caffael/masnachol
- Creu / curadu astudiaethau achos gan ddefnyddio fformat cyson i gasglu a rhannu mewnwelediadau a gwersi a ddysgwyd
- Gweithio gyda'r gymuned i ddatblygu dull cyson o amcangyfrif (cyn-gaffael), casglu ac adrodd (trwy reoli contractau) ar ddata allyriadau carbon mewn ffordd ystyrlon.
Gan weithio ochr yn ochr â’r tîm talentog y tu ôl i Cyd, byddwn yn alinio ein rhaglen Gallu ac Arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru i ategu’r gwasanaethau yr ydych chi fel cymuned gaffael yn dweud wrthym sydd eu hangen arnoch.
Mae Cyd yn gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i allu a chapasiti'r gymuned gaffael.
Er mai cymuned fach yw caffael cyhoeddus Cymru, mae’n llawn o weithwyr caffael proffesiynol ysbrydoledig ac angerddol sydd â llawer iawn o wybodaeth ac arbenigedd.
Gyda’r ymgysylltu cymunedol cywir, mae gan Cyd y potensial i helpu timau caffael i lywio trwy’r newidiadau sydd ar y gweill, rhannu gwybodaeth, arfer gorau a lleddfu rhywfaint o’r pwysau sydd ar y proffesiwn. Bydd hyn oll yn ein rhoi mewn lle da i fynd i’r afael â’r newidiadau a’r heriau sy’n ein hwynebu.
Diddordeb mewn cymryd rhan – cysylltwch!
Os oes gennych ddiddordeb clywed mwy am sut y gallwch gymryd rhan naill ai gyda Cyd neu raglen Gallu ac Arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru, <a href="https://cyd.cymru/cy/contact-us/">cysylltwch â ni</a> neu anfonwch neges at dîm Masnachol a Chaffael, Gallu ac Arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru: GalluMasnachol@llyw.cymru cysylltwch â ni yma os gwelwch yn dda. neu ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, Masnachol a Chaffael, Gallu ac Arwain: commercialcapability@llyw.cymru