Sero Net

Mapio gweithgareddau caffael cynaliadwy ar draws y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.

Mae is-grŵp caffael Panel Strategaeth Hinsawdd yr ALl (a sefydlwyd gan CLlLC) wedi nodi risgiau i’r sector cyhoeddus yng Nghymru o ran cyflawni amcanion Sero Net, oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o’r offer sydd ar gael a’r posibilrwydd o ddyblygu gwaith.

Mae'r dudalen hon yn rhannu gwybodaeth am y gweithgareddau cyfredol ar draws y sector, ac yn anelu at eich helpu yn eich gwaith. Os oes gennych unrhyw offer neu arferion gwaith a allai helpu eraill a'ch bod yn hapus i'w rhannu, anfonwch nhw at cyfathrebu@cyd.cymru i'w hychwanegu yma.

Cyngor Dinas Casnewydd

Disgrifiad o Gynlluniau'r Cyngor

Er mwyn gwireddu’r uchelgais Sero, Net mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi datblygu’r mentrau, yr offer, a’r cymorth canlynol:

Mae tîm Net Zero Casnewydd yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector preifat i'w helpu i ddeall a lleihau eu hallyriadau a'u heffeithiau ar yr hinsawdd, trwy baratoi llinellau sylfaen a strategaethau a thargedau i gyflawni Sero Net. Maent yn gweithio gyda'u cyflenwyr i adolygu polisïau a chynlluniau busnes er mwyn cyflymu'r cyfnod pontio.

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi datblygu Cyfrifiannell Ôl Troed Carbon hawdd ei ddefnyddio ar gyfer cadwyni cyflenwi, sydd bellach wedi’i fabwysiadu gan gynghorau eraill.councils.

Manylion Cyswllt

Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â'r tîm: netzero@newport.gov.uk

Cyngor Dinas Casnewydd
Canolfan Ddinesig, Casnewydd
De Cymru, NP20 4UR

Adnoddau

Cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint

Disgrifiad o Gynlluniau'r Cyngor

Er mwyn gwireddu uchelgais Sero Net, mae Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint wedi mabwysiadu offer sydd ar gael i bob awdurdod lleol a ddatblygwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau eraill. Yn ogystal â hyn, mae’r cyngor wedi datblygu:

  • Canllaw un dudalen ar ddefnyddio’r Daenlen Adrodd ar Allyriadau Carbon sy’n rhoi trosolwg hawdd ei ddeall i ddefnyddwyr y daenlen o’r hyn sydd ei angen.
  • Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sefydlu Grant Lleihau Carbon ar gyfer busnesau lleol, i gefnogi’r gwaith o greu Cynllun Lleihau Carbon.
  • Mae’r cynghorau wedi llunio pecyn yn manylu ar y cymorth sydd ar gael i Gynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint, yn ogystal â’r cymorth sydd ar gael ledled y DU (gweler 'Datgarboneiddio’r Gadwyn Gyflenwi’).

Manylion Cyswllt

Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â’r timau yn:

climatechange@denbighshire.gov.uk

climatechange@flintshire.gov.uk

Cyngor Sir Ddinbych
Blwch Post 62
Ruthin LL15 9AZ

Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug
Sir y Fflint CH7 6NB

 

Adnoddau

Cyngor Sir Powys

Disgrifiad o Gynlluniau'r Cyngor

Er mwyn gwireddu’r uchelgais Sero Net, mae Cyngor Sir Powys wedi datblygu’r mentrau, offer, a chymorth canlynol:

Offeryn gyda chronfa o gwestiynau yn ymwneud ag asesiadau risg cynaliadwy a phecyn cymorth caffael cynaliadwy CLlLC ar gyfer tendrwyr bach, canolig a mawr. Mae'r pecyn cymorth yn cefnogi tendrwyr i gwblhau asesiadau perthnasol a darparu gwybodaeth yn ymwneud ag allyriadau CO2e.

Porth Cynaliadwyedd Cadwyn Gyflenwi, a ddyluniwyd yn wreiddiol i gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol ym Mhowys gyda’u cynlluniau cynaliadwyedd a lleihau carbon, a fydd yn cael ei ehangu i bob cyflenwr o fewn 2025.

Sefydlu rhwydwaith gwyrdd gwirfoddol o gynghorwyr ac uwch aelodau o staff i fynd i’r afael â Net Zero erbyn 2030, drwy gamau cynyddrannol yn edrych ar gyllidebau a lleihau costau; llywodraethu; gwelliannau natur, a mesurau ystyrlon eraill.

Manylion Cyswllt

Os hoffech gwybod mwy, cysylltwch â'r tîm ym Mhowys: commercialservices@powys.gov.uk

Gwasanaethau Cwsmeriaid, Neuadd y Sir
Spa Road East, Llandrindod
Powys, LD1 5LG

Adnoddau

Cyngor Bro Morgannwg

Disgrifiad o Gynlluniau'r Cyngor

The Vale of Glamorgan Council’s procurement team operate in a decentralised way, which brings its own challenges to achieving Net Zero. To overcome some of these challenges, the council has developed an idea of an AI that can support questions on Net Zero and decarbonisation. This tool is called ‘Green Guru’ and is currently in development by Cardiff University.

Adnoddau Sero Net

Presentation of case study on the Green Guru – Using AI to Create Green Specification for a procurement

Manylion Cyswllt

Os hoffech mwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm Bro Morgannwg: procurement@valeofglamorgan.gov.uk

Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton
Y Barri, CF63 4RU

 

 

Cyngor Gwynedd

Disgrifiad o Gynlluniau'r Cyngor

Mae gan Gyngor Gwynedd nifer o fentrau sy'n cefnogi Sero Net ym maes caffael.

Mae'r cyngor wedi sefydlu Bwrdd Hinsawdd a Natur ac wedi datblygu Cylch Gorchwyl ar gyfer y bwrdd. Mae aelodaeth y bwrdd yn cynnwys ymgynghorydd caffael ac yn cynnig arweiniad strategol i Gabinet Cyngor Gwynedd ar feysydd newid hinsawdd a natur, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â chaffael. Am Gylch Gorchwyl manwl, gweler y ddogfen atodedig isod.

Mae'r cyngor wedi datblygu cwestiynau enghreifftiol yn ymwneud â Sero Net i'w cynnwys mewn tendrau, ac ar hyn o bryd mae'n datblygu dogfen ganllaw i brynwyr ar gynnwys ystyriaethau Sero Net yn y broses dendro. Treialwyd nifer o'r cwestiynau hyn ar gyfer contractau cludiant ysgol a dyrannwyd 20% o gyfanswm sgôr y tendr iddynt. Mae'r cyngor ar hyn o bryd yn y broses o ddatblygu arweiniad pellach i brynwyr a bydd ar gael yma pan fydd yn barod.

Manylion Cyswllt

Os hoffech gwybod mwy, cysylltwch â thîm Gwynedd: caffael@gwynedd.llyw.cymru

Cyngor Gwynedd,
Stryd y Jêl,
Caernarfon, LL55 1SH

Adnoddau

Busnes Cymru

Disgrifiad

Mae Busnes Cymru yn darparu arweiniad a chymorth i fusnesau Cymru i’w helpu i gyflawni eu huchelgais gwyrdd.

Am ragor o wybodaeth ewch i https://businesswales.gov.wales/topics-and-guidance/sustainability-and-social-responsibility/resource-efficiency/green-ambition

Adnoddau