Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansiad y Brentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol gyntaf erioed! Mae'r llwybrau hyfforddi newydd a ariennir ar Lefelau 3 a Lefel 4 bellach yn fyw ac yn barod i dimau caffael eu defnyddio.
Cynlluniwyd y brentisiaeth hon gydag arbenigwyr yn y diwydiant i roi’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol caffael i ragori ym maes dynamig caffael a rheoli’r gadwyn gyflenwi.
Mae'n cynnig cwricwlwm cynhwysfawr sy'n cynnwys meysydd allweddol cylch caffael y Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS) ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyrchu strategol, rheoli contractau, rheoli perthnasoedd â chyflenwyr, a llawer mwy.
Manteision Allweddol y Brentisiaeth:
- Mynd i'r afael â bylchau sgiliau a chapasiti: Bydd prentisiaethau'n helpu i lenwi bylchau mewn capasiti drwy gael hyfforddiant wedi'i dargedu, wedi’i ariannu’n llawn a luniwyd gan y sector. Bydd hyn yn cefnogi sefydliadau i ddatblygu'r dalent sydd ei hangen arnynt i ffynnu.
- Sgiliau a Gwybodaeth Uwch: Bydd cyfranogwyr yn ennill dealltwriaeth fanwl a sgiliau ymarferol y gellir eu defnyddio’n uniongyrchol yn eu rolau.
- Datblygu Gyrfa: Mae'r rhaglen hon yn darparu llwybr clir ar gyfer dilyniant gyrfa yn y sector caffael a'r gadwyn gyflenwi.
- Cydnabyddiaeth y Diwydiant: Bydd graddedigion yn derbyn cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang, gan wella eu hygrededd proffesiynol a'u gwerthadwyedd wrth ddatblygu profiad yn y swydd.
Rydym yn annog pob tîm caffael i fanteisio ar y cyfle unigryw hwn i ddatblygu eu llwybrau talent. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i adeiladu cymuned gaffael gryfach, fwy galluog!
Gallwch weld y llwybr prentisiaeth newydd yma. .
Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy? Byddem wrth ein bodd yn siarad â chi! Dewch i ymweld â thîm Gallu Masnachol a Chaffael Llywodraeth Cymru, ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru yn Procurex Cymru 2024 ar 5 Tachwedd. Fel arall, cysylltwch â CommercialCapability@gov.wales i gael mwy o wybodaeth.