Un o brif nodweddion gwefan Cyd.Cymru yw'r Daith Caffael’ – adran a luniwyd i’ch arwain o ddechrau i ddiwedd y broses.
Mae camau Taith Gaffael Cyd sef ‘Cynllun’, ‘Diffinio’, ‘Caffael’ a ‘Rheoli’ yn cyd-fynd â’r strwythur a’r gyfres o ddogfennau canllaw sy’n cael eu cyhoeddi gan Swyddfa’r Cabinet, sy’n mynd i’r afael â phob agwedd ar Ddeddf Caffael newydd 2023.
Rydym wedi bod yn brysur yn diweddaru’r cynnwys ar draws y camau, fel bod gennych hyd yn oed mwy o wybodaeth ar gael i’ch cefnogi yn eich gwaith.
I’ch helpu i wneud y gorau o lywio’r adnoddau sydd ar gael i chi, rydym wedi crynhoi uchafbwyntiau’r newidiadau yma:
- Mae dau gam o Daith Gaffael Cyd – ‘Chwilio'a'Rheoli‘ – wedi'u diweddaru gyda chynnwys ehangach sy'n rhoi arweiniad ymarferol a dolenni i adnoddau ategol ychwanegol;
- O fewn y cam ‘Chwiliomae cynnwys bellach a fydd yn helpu gyda'r broses o'r dechrau i'r diwedd - o gwblhau pecynnau caffael a chyfleoedd hysbysebu, hyd at gymhwyso gwaharddiadau a meini prawf dethol, gwerthuso tendrau a dyfarnu, a llofnodi a chyhoeddi contractau;
- O fewn y cam 'Rheoli' mae yna bellach gynnwys a fydd yn helpu i reoli darpariaeth gwasanaeth a pherthnasoedd cyflenwyr unwaith y bydd contractau wedi'u dyfarnu, yn ogystal ag addasu, cau a gadael contractau.
Byddwn yn parhau i wneud diweddariadau i daith gaffael Cyd, yn ogystal ag ychwanegu cynnwys defnyddiol arall ar y wefan. Cofrestrwch ar gyfer ‘Pipeline’, cylchlythyr misol Cyd am ddiweddariadau, astudiaethau achos a gwybodaeth ddefnyddiol ychwanegol, yn syth i’ch blwch post bob mis.