Rydym i gyd yn ymwybodol o’r her: mae llawer o’n cydweithwyr yn ymwneud â phenderfyniadau gwariant ond nid oes ganddynt ddealltwriaeth lawn o ofynion caffael neu pryd fydd angen mewnbwn caffael er mwyn sicrhau canlyniadau gwell, cydymffurfiaeth gryfach, a defnydd mwy effeithiol o arian cyhoeddus.
Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, mae Coleg Masnachol y Llywodraeth (GCC) wedi lansio'r modiwl Ymwybyddiaeth Caffael, fel rhan o'u Rhaglen Gallu Caffael. Caiff gweithwyr proffesiynol caffael eu hannog i rannu'r modiwl yn eang a'i ddefnyddio fel offeryn ymarferol i gefnogi gwell ymgysylltu ar draws eu sefydliadau.
Beth ydyw?
Mae'r modiwl Ymwybyddiaeth Caffael yn gwrs byr, annibynnol sydd wedi'i gynllunio ar gyfer pobl nad ydynt yn gweithio ym maes caffael ond sy'n ymwneud â gwario arian cyhoeddus. Gallai hyn gynnwys:
- Arweinwyr a rheolwyr
- Deiliaid cyllidebau
- Cydweithwyr prosiect a pholisi
- Unrhyw un sy'n ymwneud â phenderfyniadau comisiynu neu brynu
Mae'r nod yn syml: helpu pobl i ddeall hanfodion caffael yn y sector cyhoeddus, pryd mae'r rheolau'n berthnasol, a phryd y dylent ofyn am help.
Beth yw'r Canlyniadau Dysgu?
Erbyn diwedd y modiwl, bydd dysgwyr yn gallu:
- Deall beth yw caffael a pham mae ymwybyddiaeth o gaffael yn bwysig wrth wario arian cyhoeddus.
- Cydnabod pryd mae deddfwriaeth gaffael yn berthnasol a chofio egwyddorion a rhwymedigaethau allweddol.
- Gwybod pryd i ofyn am gymorth ac arweiniad gan gydweithwyr caffael neu fasnachol yn eich sefydliad.
Ar gyfer timau caffael, mae hynny'n golygu sgyrsiau cynharach, llai o bethau annisgwyl, a chwsmeriaid mewnol mwy gwybodus.
Mae'r hyfforddiant hwn a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU yn cefnogi dealltwriaeth gyffredinol o gaffael cyhoeddus ond nid yw'n cwmpasu gofynion sy’n benodol i Gymru o dan Reoliadau Caffael Cyhoeddus (Cymru) 2024. Ymgynghorwch â chydweithwyr caffael eich sefydliad am arweiniad pellach.
Sut i gael mynediad iddo
Mae'r modiwl yn cael ei gynnal ar blatfform Coleg Masnachol y Llywodraeth - Course: Procurement Capability Programme ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus
Bydd angen cyfrif Coleg Masnachol y Llywodraeth ar ddysgwyr y sector cyhoeddus i gael mynediad i'r hyfforddiant. Os nad oes ganddynt un eisoes, bydd angen iddynt gofrestru yma i gael mynediad i'r hyfforddiant.