Yn gynharach y mis hwn, rhoddodd Carl Thomas, Arweinydd Rhanddeiliaid a Pholisi Diwygio’r Broses Gaffaelyr araith gyweirnod yn Procurex Cymru, ar y newidiadau sydd i ddod i’r Ddeddf Caffael.
Dyma grynodeb o’r pwyntiau allweddol rhannodd Carl, ac mae e'n gobeithio y bydd rhain yn sbarduno syniadau defnyddiol i’r rhai ohonoch nad oedd yno neu na chawsoch gyfle i wrando – roedd yn ofod llawn a bywiog:
- Tair Colofn Parodrwydd i Ddiwygio Caffael
Er mwyn gweithredu’r Ddeddf Caffael yn llwyddiannus, mae angen i ni ganolbwyntio ar bobl, prosesau, a systemau:
- Pobl: Mae’n hanfodol uwchsgilio pawb sy’n ymwneud â chaffael—boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol—ar draws pob sector o’r gwasanaeth cyhoeddus. Mae angen i ni sicrhau bod pawb yn deall y newidiadau ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i addasu iddynt.
- Prosesau: Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn cynnig cyfle i ni ailfeddwl sut rydym yn gwneud pethau. Mae angen i ni ddiweddaru a symleiddio ein prosesau i'w gwneud yn fwy hyblyg, arloesol, ac yn canolbwyntio ar gyflawni'r canlyniadau gorau. Bydd ymgysylltu â rhanddeiliaid—yn fewnol ac yn allanol—yn helpu i nodi aneffeithlonrwydd a chyfleoedd ar gyfer gwella.
- Systemau: Bydd systemau digidol yn allweddol i reoli caffael yn effeithiol o dan y rheolau newydd. Rhaid inni ddeall sut mae data’n cael ei gasglu, ei storio a’i gyrchu, fel y gallwn ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau gwell, monitro perfformiad, a rheoli risgiau’n effeithiol.
- Newid Diwylliant Caffael
Yr her fwyaf yw newid canfyddiadau o gaffael. For too long, procurement has been seen as a ‘back-office’ function—bureaucratic, slow, and inflexible. But procurement is a offeryn strategol that can drive outcomes for the organisation and the communities we serve. We need to move from being ‘blockers’ to ‘enablers,’ from ‘inefficient’ to ‘innovative,’ and from ‘risk-averse’ to ‘risk-aware.’ This won’t happen overnight, but the Procurement Act should be the catalyst for this cultural shift.
- Arweinyddiaeth a Pherchnogaeth
Er mwyn i gaffael gael ei wreiddio’n wirioneddol fel swyddogaeth strategol, rhaid iddo gael ei hyrwyddo gan uwch arweinwyr. Fodd bynnag, er mwyn i arweinwyr gefnogi caffael yn llwyr, mae angen inni newid y ffordd y caiff caffael ei ganfod ar draws y sefydliad. Os yw pobl yn dal i'w weld yn fiwrocrataidd neu'n aneffeithlon, bydd yn anodd ennill eu cefnogaeth.
- Adnoddau a Chymorth Parhaus
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dogfennau canllaw a adnoddau dysgu on the Procurement Act, and these will continue to be updated. I encourage everyone to stay engaged with these materials and keep up to date with new developments. In the new year, I’ll also be running webinars, including one focused on ‘Behavioural Change: Transforming Procurement Practices’Bydd mwy o fanylion yn dilyn yn fuan!
Myfyrdod Olaf
Mae’r diwygiadau hyn yn gyfle cyffrous i drawsnewid y ffordd yr ydym yn mynd ati i gaffael yng Nghymru. Ond er mwyn iddynt lwyddo, mae angen inni adeiladu ar seiliau cadarn: ffocws clir ar bobl, prosesau, systemau, ac, yn bwysicaf oll, newid diwylliannol. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau bod caffael yn dod yn sbardun i arloesi a newid cadarnhaol i’r sector cyhoeddus.
Os oeddwch chi yn Procurex, hoffwn clywed eich barn nawr eich bod wedi cael cyfle i fyfyrio. Ac os nad oeddech, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn tanio rhai syniadau wrth i ni symud ymlaen i gyfnod newydd o gaffael!