Rôl hanfodol caffael cyhoeddus os ydym am gyrraedd sero net erbyn 2030

Cyn i mi ddechrau gweithio ar brosiect alffa Cyd (canolfan ragoriaeth gaffael newydd i Gymru), doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi’r gwahaniaeth enfawr y gallai timau caffael ledled Cymru ei wneud i’n helpu i gyrraedd sero net erbyn 2030.

Rôl caffael wrth gyrraedd sero net

Roeddwn mewn cynhadledd gaffael a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru yn y gogledd yn gynharach yn yr wythnos, yn trafod rôl caffael i gyrraedd sero net. Roedd yn ddigwyddiad wedi'i drefnu'n wych gyda nifer o siaradwyr diddorol.

Y ddau oedd yn sefyll allan i mi oedd Karen Bellis o Gyngor Sir Ddinbych a Gwasanaeth Masnachol y Goron (Crown Commercial Services).

Karen was an inspiration, and you could tell from her ‘can do’ attitude that she’ll drive a real difference within the council.  Having led the creation of the council’s ’Community Benefit Policy’, she has ensured that community benefits are considered on all works contracts worth more than £100k and goods/services contracts worth more than £25k.

Roedd ganddi enghreifftiau gwych o dai cymunedol a adeiladwyd i'r fanyleb werdd uchaf a hen adeilad cyngor a ail-bwrpaswyd fel fflatiau ymddeol. Ac yn y ddwy enghraifft, roedd y cyngor yn cefnogi'r economi leol gyda chanran uchel o fasnachwyr lleol a chyflenwadau o ffynonellau lleol yn cael eu defnyddio.

In their session, the Crown Commercial Service discussed the UK Government’s Procurement Policy Note (PPN) 06/21 ‘Taking account of Carbon Reduction Plans in the procurement of major government contracts’ and especially, the Carbon Reduction Plan template that any supplier bidding for work over £5 million must complete, and pass, to bid for work.

Clywsom am y panig ymhlith cyflenwyr pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, ond drwy gynnig sesiynau hyfforddi ac arweiniad rheolaidd, roedd y cyflenwyr yn gyffredinol bellach yn ei dderbyn.

 

Cyflwyno Cyd

Ac yna ar ôl cinio, cawsom sesiwn i drafod Cyd – y ganolfan ragoriaeth arfaethedig – gan brofi syniadau gwasanaeth gyda’r mynychwyr.

Roeddem am gael eu barn ar y tri syniad gwasanaeth a flaenoriaethwyd gan ein grŵp profi y byddwn yn bwrw ymlaen â hwy ac yn eu datblygu, sef:

  • Creu / curadu deunyddiau hyfforddi sy'n ymwneud â gwahanol gamau o'r cylch bywyd caffael/masnachol
  • Creu / curadu astudiaethau achos gan ddefnyddio fformat cyson i gasglu a rhannu mewnwelediadau a gwersi a ddysgwyd
  • Gweithio gyda'r gymuned i ddatblygu dull cyson o amcangyfrif (cyn-gaffael), casglu ac adrodd (trwy reoli contractau) ar ddata allyriadau carbon mewn ffordd ystyrlon.

Mae’r tair elfen yn gysylltiedig, ac yn ategu gwaith sydd ar y gweill o fewn cynllun gweithredu digidol caffael Llywodraeth Cymru.

Y bwriad yw fod yr holl hyfforddiant perthnasol, astudiaethau achos, ac offer neu ganllawiau asesu carbon ar gael yn ystod y cam perthnasol o'r cynlluniwr - gyda chynghorau neu sefydliadau sydd ar flaen y gad yn rhannu eu profiad fel y gall eraill ddysgu ganddynt.

 

Adborth a syniadau

Cafodd pawb eu rhannu I grwpiau a chawsom drafodaethau bywiog ar enghreifftiau o arfer da, y fformat yr hoffent weld y gwasanaethau ynddo, a'r hyn y dylid ei gynnig yn y tymor hir.

A’r canlyniad oedd llwyth o sylwadau, syniadau a dyheadau wedi’u sgriblo ar 128 o bapurau bach lliwgar a fydd yn amhrisiadwy i ni wrth inni symud ymlaen i ddatblygu’r gwasanaethau hyn ymhellach.

Mae yna addewid yng Nghymru y byddwn ni’n sero net erbyn 2030 – er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i ni i gyd gael yr agwedd bositif a welsom yn y gynhadledd yn Llandudno.

Gyda'r gymuned yn dal ein llaw, rydym yn gobeithio y bydd Cyd yn gallu arwain y ffordd ar rôl hollbwysig caffael cyhoeddus wrth gyrraedd sero net.

Os hoffech chi ddarganfod mwy a chymryd rhan yn ein grŵp profi yna cysylltwch â ni yma. .

 

Mae'r blog yma wedi ei ysgrifennu gan Angharad, un o dîm datblygu Cyd. Cafodd ei hysbydoli yn dilyn cynhadledd yn trafod caffael sero net yn Llandudno.