Efallai eich bod wedi gweld Carl Thomas yn ddiweddar, Arweinydd Rhanddeiliaid a Pholisi Diwygio’r Broses Gaffael o fewn Llywodraeth Cymru, yn un o’i sesiynau paratoadol ar y newidiadau sydd i ddod. Wrth i ni gyrraedd y Gwanwyn, gyda mis Hydref yn dod yn nes byth, mae Carl wedi cymryd peth amser rhwng y trafodaethau i blannu ychydig o syniadau a allai arwain at drosglwyddiad fwy llyfn unwaith y bydd y drefn newydd yn fyw.
"Mae'r gwanwyn fel arfer yn dymor o newid. Mae’n gyfnod o gynlluniau a phrosiectau, o bositifrwydd a phosibilrwydd, o gyfleoedd a dechreuadau newydd.
"Ac efallai nad yw’n gyd-ddigwyddiad y bydd Rheoliadau Caffael (Cymru) Llywodraeth Cymru yn cael eu gosod gerbron y Senedd yn ystod y gwanwyn. Mae’r rheoliadau hyn yn ddarn pwysig arall eto yn esblygiad caffael cyhoeddus yng Nghymru, a byddant yn rhoi llawer mwy o fanylion i brynwyr a chyflenwyr am ofynion penodol y drefn gaffael newydd.
Edrych i'r dyfodol
"Rydym yn rhagweld y bydd y drefn newydd o dan y Ddeddf Caffael yn mynd yn fyw ym mis Hydref 2024. Mae hyn yn rhoi ychydig dros 6 mis i awdurdodau contractio ystyried sut i leoli eu hunain er mwyn darparu'r gorau i Gymru - Sut y gall eu pobl a'u cadwyni cyflenwi wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a gyflwynir i sicrhau gwell canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol i drigolion.
“Some initial areas of focus for contracting authorities might include:
- Pobl – A ydych chi wedi nodi uwch randdeiliaid allweddol yn eich sefydliad a fydd eisiau gwybod am newid? Ydych chi wedi nodi prif gyflenwyr eich sefydliad? A ydych wedi nodi pawb yn y sefydliad y bydd angen iddynt ymgymryd â hyfforddiant caffael? A oes gennych gynllun cyfathrebu gyda manylion y negeseuon allweddol ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol?
- Systemau – A ydych wedi nodi lle mae data perthnasol sy'n ymwneud â chaffael yn byw yn eich systemau e-gaffael presennol? A ydych chi wedi nodi pwy yn eich sefydliad sy'n defnyddio GwerthwchiGymru a phwy allai fod angen ei ddefnyddio yn y dyfodol? A ydych wedi ymgysylltu â thîm taliadau / cyllid eich sefydliad i sicrhau y gellir bodloni’r gofynion ar gyfer taliadau prydlon?
- • Prosesau a Gweithdrefnau – A ydych wedi cynnal adolygiad o Reolau Sefydlog presennol eich sefydliad i nodi lle bydd angen newidiadau? A ydych wedi diweddaru mapiau proses/llwybrau presennol ar gyfer gwahanol fathau o gaffael, gan gynnwys caffael o dan y trothwy? A ydych wedi nodi’r newidiadau y bydd eu hangen i ddogfennau tendro a thelerau ac amodau safonol eich sefydliad? A oes gan y sefydliad gofrestr contractau gyfredol? A ydych chi wedi nodi gweithgarwch caffael arfaethedig y sefydliad dros y 2 flynedd nesaf?
Llyfnhau'r trawsnewid
“Mae’n hanfodol bod awdurdodau contractio yn defnyddio’r 6 mis nesaf yn ddoeth i sicrhau eu bod yn gallu gwireddu potensial llawn y cyfleoedd niferus sy’n gysylltiedig â’r diwygiadau hyn – oherwydd pan ystyrir y gwanwyn yn dymor dechreuadau newydd, gallai’r hydref hefyd gael ei ystyried yn gyfnod o adnewyddu a trawsnewid.
“Amser i gael gwared ar rai o’r hen feddylfryd a’n hymddygiad, ac elwa ar ein gwaith caled yn y gwanwyn a’r haf yn paratoi ar gyfer y drefn gaffael newydd."