Mae safle newydd Cyd yn fyw | Dywedwch wrthym beth yw eich barn

Yn dilyn cyfnod prawf cychwynnol gyda chymuned Cyd, rydym yn barod ar gyfer lansiad Beta y wefan ddatblygu sy’n bodoli i gefnogi gweithwyr proffesiynol caffael a masnachol Cymru.  

O heddiw ymlaen, mae gan weithwyr proffesiynol caffael a masnachol yng Nghymru fynediad i ofod ar-lein sydd wedi’i gynllunio i dywys defnyddwyr drwy’r llwybrau i ymgysylltu â chyflenwyr a chael gwasanaethau; gyda mynediad at bolisi, astudiaethau achos, a chymuned o gydweithwyr.   

Rydym wedi bod yn datblygu’r safle newydd yn seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr a’n cymuned brawf, ac er ei fod yn dal yn Beta, mae cyd.cymru eisoes yn rhoi blas o’r hyn y bydd y safle ehangach yn ei gynnig. Bydd y safle yn gartref i wasanaethau Cyd, ac fel canolbwynt a rennir ar gyfer ymarferwyr, bydd y gofod hwn yn cael ei siapio gan y gymuned, ar gyfer y gymuned.  

 

Beth yw eich barn chi? 

cyd.cymru wedi cyrraedd y man yma oherwydd ein tîm o brofwyr a chymuned ehangach Cyd. Os nad ydych chi eisoes wedi cymryd rhan, gallwch gofrestru nawr i helpu siapio gwasanaethau Cyd helo@perago.cymruAc, os ydych chi eisoes yn aelod o’r rhwydwaith sy’n llywio datblygiad y safle a gwasanaethau Cyd, edrychwch o gwmpas a gofynnwch i chi'ch hun pwy sydd heb ei gynrychioli ar draws eich grŵp cyfoedion caffael - gwahoddwch nhw i rannu eu barn, a helpwch i wneud y gefnogaeth yn well i bawb.  

 

Gweithio’n agored 

Byddwn yn parhau i rannu sut mae’r gwasanaeth yn datblygu a’r hyn rydym yn ei ddysgu wrth fynd ymlaen. Rydym wedi bod yn rhannu’n agored trwy’r sesiynau Dangos a Dweud sydd hefyd yn cael eu recordio fel bod unrhyw un sy'n eu methu yn gallu eu gwylio a dal i fyny, eu rhannu gyda'n cymuned profi a derbyn eu hadborth a'u mewnwelediad.   

Wrth i ni fynd i mewn i’r cyfnod nesaf hwn o ddatblygu a dysgu ar y cyd, byddwn yn parhau i rannu blogiau ac astudiaethau achos, ac yn mynd ati i siapio’r wefan a gwasanaethau Cyd yn seiliedig ar anghenion y cymunedau    

 

Beth sydd nesaf?  

Cyfleoedd dysgu a datblygu; rhyngweithioldeb a fforymau ar-lein; creu gofodau personol i guradu cyd.cymru sy’n benodol i chi… dyma rai o’r syniadau rydym yn eu datblygu o amgylch cam nesaf y safle, ond byddem wrth ein bodd yn clywed am yr hyn yr hoffech ei weld. Cymerwch ran yn y gwaith o lunio gwasanaethau Cyd yma 👉🏽 helo@perago.cymru.