Er mwyn paratoi rhanddeiliaid ar gyfer cyflwyno’r Ddeddf Caffael newydd, mae Llywodraeth y DU wedi lansio ei chyfres o fideos Diferion Gwybodaeth (Knowledge Drop) i roi trosolwg lefel uchel o’r newidiadau i randdeiliaid, gan gynnwys cyflenwyr, busnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol cymunedol gwirfoddol.
Nid yn unig y bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y rheini mewn adrannau masnachol neu gaffael, byddan nhw hefyd yn gofyn am newid diwylliannol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Felly bydd y wybodaeth a gynhwysir yn y fideos hyn o fudd i uwch arweinwyr, cyfarwyddwyr cyllid, llunwyr polisi, cyfreithwyr, timau digidol a data ac unrhyw un sy’n ymwneud â phrosesau tendro neu’n rheoli contractau cyhoeddus.
Mae'r Diferion Gwybodaeth wedi'u hanelu at wahanol gynulleidfaoedd, ac maen nhw’n cynnwys:
- Awdurdodau contractio45 munud i gyd, wedi'i rannu'n 6 adran lai.
- Cyflenwyr: 45 munud i gyd, wedi'i rannu'n 3 adran lai.
- Cyflenwyr mentrau cymdeithasol cymunedol gwirfoddol a busnesau bach a chanolig: 45 munud i gyd, wedi'i rannu'n 3 adran lai.
Mae yna hefyd daflenni ffeithiau atodol a fydd yn amlinellu unrhyw wahaniaethau penodol i Gymru, cyfleustodau, y gyfundrefn cyffyrddiad ysgafn, amddiffyn a diogelwch, consesiynau ac ysgolion. Cymru, utilities, light touch, defence and security, concessions and schools.
Gallwch weld yr holl Ddiferion Gwybodaeth a thaflenni ffeithiau a chael mynediad atyn nhw ar dudalen benodol ar dudalennau gwe ‘Trawsnewid Caffael Cyhoeddus’ Llywodraeth y DU yma. yma. .