Blog newydd gan Carl Thomas, Arweinydd Rhanddeiliaid a Pholisi Diwygio’r Broses Gaffael, sy'n gosod cyd-destun i'r newidiadau sydd ar ddod i bawb.
Mae hon yn stori am bedwar o bobl o'r enw Pawb, Caffael, Unrhyw Un, a Neb.
Roedd gwaith pwysig i'w wneud a gofynnwyd i Bawb ei wneud.
Roedd pawb yn sicr y byddai Caffael yn ei wneud.
Gallai Unrhyw Un fod wedi ei wneud, ond ni wnaeth Neb.
Aeth caffael yn grac am hynny, oherwydd swydd Pawb ydoedd.
Roedd Pawb yn meddwl y gallai Unrhyw Un ei wneud, ond doedd Neb yn sylweddoli na fyddai Pawb yn ei wneud.
Yn y diwedd, roedd Pawb yn beio Caffael pan na wnaeth Neb yr hyn y gallai Unrhyw Un fod wedi'i wneud.
Fel arfer, un o'r prif gymeriadau yn y stori hon yw 'Rhywun', ac fel arfer defnyddir y stori i amlygu materion yn ymwneud â pherchnogaeth, cyfrifoldeb, atebolrwydd a gwaith tîm. Ond dwi wedi defnyddio dipyn o drwydded creadigol a newid y prif gymeriad i 'Caffael'. Ac ar ôl y newid bychan hwn, mae’r stori yn cymryd ystyr cwbl newydd pan fyddwn yn meddwl am rôl caffael mewn sefydliadau ac, yn bwysig, yng nghyd-destun y blog hwn, diwygio caffael.
Wrth i’r Bil Caffael agosáu at sicrhau Cydsyniad Brenhinol, bydd esblygiad deddfwriaeth caffael yn ei gwneud yn ofynnol i gydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru wneud pethau’n wahanol. Sylwch ar yr iaith rwyf wedi ei defnyddio yma – “cydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus Cymreig”, nid “cydweithwyr caffael” neu “brynwyr yn y sector cyhoeddus”. Ac mae rheswm da am hyn…cydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus Cymreig yn y 'Pawb' yn y stori uchod.
Rwy’n ffodus yn fy rôl fy mod yn cael siarad â rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, ac yn ystod fy sgyrsiau dros yr ychydig fisoedd diwethaf rwyf wedi bod yn pwysleisio’r pwynt mai newidiadau sefydliadol yw’r diwygiadau sy’n cael eu cyflwyno, a byddant yn effeithio ar bawb yn y sefydliad.
Bydd y diwygiadau yn ysgogi newid ymddygiadol a diwylliannol ar draws y sefydliad cyfan, gan ddyrchafu caffael fel swyddogaeth gorfforaethol strategol sy’n cefnogi gwireddu amcanion sefydliadol cyffredinol ac yn cyflawni canlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol, gan gynnwys gwaith teg.
Felly beth allwn ni ei ddysgu o'r stori uchod?
Yn fyr, mae diwygio caffael yn waith Pawb. Gallai cydweithwyr caffael fod yn gyfrifol am roi’r newidiadau ar waith, ond ni allant wneud hynny ar eu pen eu hunain. Bydd angen gwaith tîm a chydweithio ar draws y sefydliad i sicrhau bod hyblygrwydd a manteision y drefn newydd yn cael eu gwireddu. Ac yn y pen draw, uwch arweinwyr fydd yn atebol am roi'r newidiadau ar waith yn llwyddiannus.